Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am aelodau ar gyfer Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy

February 2026 | Arfor, Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy newydd, ac yn chwilio am bobl sy’n gweithio yn y sector twristiaeth i gymryd rhan. Bwriad y fforwm yw cefnogi’r sector twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin a chynnwys busnesau, atyniadau a sefydliadau o fewn y sector mewn trafodaeth ehangach ynghylch yr hyn sydd angen ar y sector i ffynnu. Yn ôl y Cyngor, nod y fforwm yw:

  • Cynnwys partneriaid allweddol yng ngwaith y Cyngor yn y sector twristiaeth, gan gynnwys materion gweithredol ymarferol, heriau a chyfleoedd
  • Cael gwybodaeth gan aelodau i gefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflawni strategaethau a gweithgareddau i gynorthwyo twf parhaus mewn ansawdd ac effaith economaidd
  • Trafod yr effaith leol ac unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau polisi cenedlaethol yn ogystal â materion ehangach o ran y sector
  • Darparu proses gyfathrebu ddwyffordd effeithiol rhwng gwahanol feysydd o’r sectorau twristiaeth, preifat, cyhoeddus a chymunedol

Bydd gofyn i aelodau’r fforwm gynrychioli’r sector twristiaeth, rhoi adborth a chynnig sylwadau ar waith prosiect a chanllawiau drafft, ystyried a rhoi cyngor ar gyfleoedd neu faterion posibl yn y sector, hyrwyddo gwaith y fforwm i eraill yn eu maes a chynnig pynciau i’w trafod hefyd.

Mae’r Cyngor yn annog y rheini sy’n gweithio yn sectorau canlynol i ymgeisio:

  • Gwestai (cadwyn ac annibynnol)
  • Gwely a Brecwast/gwesty bach a llety hunanarlwyo
  • Carafanau/gwersylla/hostelau
  • Tafarndai / bwytai
  • Digwyddiadau
  • Atyniadau a lleoedd i ymweld â nhw (am dâl)
  • Adwerthu

Bydd aelodau o’r sector cyhoeddus a’r sector cymunedol hefyd yn rhan o’r fforwm. Bydd cynrychiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru/CADW yn ogystal â Chynghorau Tref a Chymuned leol. Bydd swyddogion o dimau perthnasol y Cyngor hefyd yn cymryd rhan.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

“Bydd y Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy newydd yn gyfle gwych i gynrychiolwyr o’r sector twristiaeth yn Sir Gâr ddweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu sector.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’r Fforwm a fydd yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, dan fy nghadeiryddiaeth i, i gynnig dealltwriaeth werthfawr o’r sector.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm Twristiaeth Gynaliadwy, ac i ganfod manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This