Cyngor Sir Gaerfyrddin i gynnal sesiynau galw heibio Pentre Awel

Ionawr 2025 | Sylw, Cymru Wledig LPIP Rural Wales, Polisi gwledig

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin, sy’n rhedeg prosiect Pentre Awel, wedi cyhoeddi y byddant yn cynnal sesiynau galw heibio i ymgysylltu a’r gymuned leol yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin ac i drafod datblygiadau diweddaraf y prosiect.

Mae Pentre Awel yn ddatblygiad newydd dan arweiniad y cyngor bydd yn darparu gofod ar gyfer ymchwil meddygol a gofal iechyd gyda’r gobaith o gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Honnai’r cyngor bydd y prosiect yn creu 1,800 o swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, a bydd yn cynrychioli cyfraniad o £467 miliwn i economi’r ardal dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar ddydd Mercher 15 Ionawr yng Nghanolfan Antioch Llanelli, gyda sesiwn bore rhwng 9:30 a 12:30 a sesiwn prynhawn rhwng 15:30 a 18:30. Bydd swyddogion o’r cyngor ar gael i ateb cwestiynau a rhannu gwybodaeth ynghylch y gwaith datblygu. Mae arweinwyr y prosiect hefyd yn awyddus i drafod gyda chynrychiolwyr o fusnesau sydd â diddordeb posib mewn bod yn rhan o’r cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ym Mhentre Awel fynychu un o’r sesiynau galw heibio a siarad â thîm Pentre Awel a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn hanfodol i Brosiect Pentre Awel i sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i fod wrth wraidd y datblygiad arloesol ac unigryw hwn.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch Pentre Awel a’r hyn sydd ar y gweill yno, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This