Cyngor Gwynedd yn nodi blwyddyn o raglen digartrefedd Tai yn Gyntaf

January 2026 | Sylw

Mae Cyngor Gwynedd wedi nodi blwyddyn gyntaf partneriaeth gydag elusen digartrefedd The Wallich er mwyn darparu gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn y sir. Nod y cynllun yw sicrhau fod pobl ddigartref yn cael mynediad at gefnogaeth a chartrefi sefydlog hir dymor.

Yn y flwyddyn 2024-25 fe wnaeth bron i 1,000 o bobl gyflwyno yn ddigartref yng Ngwynedd, gyda llawer ohonynt ag anghenion niferus a chymhleth. Mae Tai yn Gyntaf yn gweithio ar yr egwyddor o ddarparu cartref heb ragofynion nag amodau penodol i bobl ddigartref yn hytrach na llety dros dro. Yng Ngwynedd, mae swyddogion The Wallich wedyn yn darparu cefnogaeth arbenigol wedi ei deilwra i’r unigolyn er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth yn llwyddiannus. Mae’r rhaglen yn cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r rhaglen wedi llwyddo i gyflawni’r canlynol:

  • Mae naw o bobl bellach yn byw mewn cartrefi sefydlog, gydag un arall i symud i mewn ym mis Rhagfyr.
  • Mae saith o bobl wedi cael cefnogaeth i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
  • Mae wyth o bobl wedi derbyn cefnogaeth yn gysylltiedig â defnydd sylweddau.

Mewn datganiad i’r wasg gan Gyngor Gwynedd, dyfynnwyd unigolyn a gefnogwyd drwy wasanaeth Tai yn Gyntaf Gwynedd:

“Dw i wedi bod yn ddigartref ers 2018 ac wedi byw mewn llety argyfwng gan y Cyngor ers hynny. Ond ers cwrdd â The Wallich, alla i ddim credu faint o gefnogaeth a help dw i wedi’i gael. Chwarae teg iddyn nhw. Dydw i erioed wedi cael y math yma o gefnogaeth o’r blaen.

Rŵan, dw i mewn lle da iawn. Dw i’n hapus, rhywbeth dw i heb fod ers llawer iawn o flynyddoedd. Mae gen i fflat bach un ystafell wely. Camau bach, ond mae gen i gynlluniau da i’r flwyddyn newydd.”

Dywedodd Nicola Lamerick, Rheolwr Tai yn Gyntaf yn The Wallich:

“Hoffwn ddiolch i’n holl asiantaethau partner am eu cefnogaeth barhaus i’r prosiect. Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy’n ystyriol o drawma, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cynnig atebion go iawn a pharhaol i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Yng Ngwynedd, rydym wedi cefnogi unigolion a oedd mewn amgylchiadau anodd iawn pan wnaethon ni eu cyfarfod am y tro cyntaf, ac erbyn hyn, maent yn ffynnu. Dw i’n hynod o falch o waith fy nhîm, mae eu hymroddiad a’u tosturi yn wirioneddol newid bywydau’r rheini rydym yn eu cefnogi. Rydym wedi gwneud cynnydd gwych, gyda bron i hanner y rhai rydym yn eu cefnogi wedi symud ymlaen o gyfnodau hir o ddigartrefedd ac erbyn hyn maent yn byw mewn cartrefi diogel, parhaol.

I gynnal y momentwm yma, mae angen mwy o gartrefi arnom. Rydym yn gwahodd landlordiaid a darparwyr tai i gysylltu â ni i helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen. Gyda’n gilydd, gallwn gynnig gobaith, sefydlogrwydd a dyfodol i’r rheini sydd ei angen fwyaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae Tai yn Gyntaf yn darparu cartref sefydlog yn gyflym, ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i bobl ag anghenion cymhleth sy’n profi digartrefedd. Mae’r model wedi’i brofi i weithio ledled y byd, a dw i’n falch o weld pobl yng Ngwynedd yn elwa o wasanaeth mor dosturiol. Mae gweithio mewn partneriaeth â’r Wallich wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant yma.

Mae cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae llwyddiant y cynllun yma dros y flwyddyn ddiwethaf yn un rhan o’n hymrwymiad ehangach i sicrhau yn y pen draw nad oes neb yn ddigartref yng Ngwynedd.”

Os ydych chi’n byw yng Ngwynedd ac yn ddigartref, neu’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, cysylltwch â gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd drwy ffonio 01286 685100 neu drwy gysylltu a digartref@gwynedd.llyw.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This