Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod wedi lansio tudalen gwe newydd i helpu trigolion y sir i ddygymod a’r heriau maent yn eu hwynebu wrth i’r argyfwng costau byw barhau. Y nod yw ceisio darparu cyngor ymarferol i’r rheini sy’n wynebu heriau ariannol gan dynnu ynghyd yr holl wybodaeth ynghylch y cymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt, ynghyd a gwybodaeth am gymhwyso ar gyfer gwasanaethau a chymorth pellach. Mae’r dudalen yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar filiau, budd-daliadau, cymorth costau ysgol, gwybodaeth am fanciau bwyd a llawer mwy.
Mewn datganiad dywedodd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd:
‘Yn dilyn cyfnod drud y Nadolig a’r gaeaf oer, yn anffodus mae costau byw yn parhau i godi, felly mae’n amserol i atgoffa pobl Gwynedd lle mae modd iddynt ddod o hyd i’r cymorth sydd ar gael.
‘Yn rhy aml, dydi pobl ddim yn sylweddoli pa help sydd ar gael na beth maent yn gymwys amdano. Efallai fod pobl yn colli allan ar bethau fyddai’n gwneud eu bywydau yn haws a mwy cyfforddus ac mae’r dudalen newydd ar y wefan yn cynnwys gwybodaeth eang am gymorth.
‘Rwyf yn annog unrhyw un i fynd i ymweld â’r dudalen newydd ble mae popeth ar gael mewn un lle ar flaenau eich bysedd, ddydd a nos.’
I ymweld a’r dudalen a darganfod mwy am y cymorth sydd i’w gael, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/cymorthcostaubyw.