Cyngor Gwynedd yn gofyn i drigolion ymateb i arolwg barn am dwristiaeth

Hydref 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyngor Gwynedd wedi apelio at drigolion lleol i fynegi eu barn am dwristiaeth yn eu cymunedau gan ymateb i arolwg newydd. Mae’r arolwg ar agor i bawb sydd yn byw yng Ngwynedd ac mae’n gyfle i drigolion ddweud eu dweud ynghylch effaith twristiaeth yn eu hardaloedd, gan edrych ar gyflogaeth, ansawdd bywyd, yr amgylchedd, treftadaeth a diwylliant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned i Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys:

‘Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei gael ar ein cymunedau yma yng Ngwynedd a beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono.

Mae’r arolwg hwn yn amserol gan fod blwyddyn wedi pasio ers i ni lansio Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035, sef y Cynllun Strategol ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn yr ardal. Bwriad y cynllun yw cynorthwyo’r ardal i gefnogi twristiaeth gynaliadwy i’r dyfodol.

Dyma gyfle hefyd i fynegi barn ar effeithiau twristiaeth ers dynodi Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2021.

Bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu ni i lywio polisi twristiaeth i’r dyfodol, ac ein galluogi i ymateb yn y ffordd orau i gyfarch anghenion lleol ein cymunedau.

Os oes gennych farn ar y mater, byddwn yn eich annog i gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur.’

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg drwy ymweld â gwefan Cyngor Gwynedd. Mae modd cael copi papur o’r arolwg mewn llyfrgelloedd yng Ngwynedd neu ar fformat wahanol drwy gysylltu twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru. Mae’r arolwg ar agor nes 15 Tachwedd 2024.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This