Mae Cyngor Gwynedd wedi atgoffa grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref a mudiadau gwirfoddol am arian sydd ar gael er mwyn cynyddu argaeledd rhandiroedd i bobl yr ardal. Mae modd gwneud cais am arian yn enw sicrhau un neu fwy o’r amcanion canlynol:
- Creu rhandir / Rhandiroedd newydd.
- Dod a hen randiroedd yn ôl i ddefnydd.
- Gwella mynediad i randiroedd.
- Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd.
- Gwella diogelwch safle randiroedd.
- Gwella ailgylchu ar randiroedd.
- Gwella bioamrywiaeth ar randiroedd.
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.
Byddai modd defnyddio’r arian i brynu deunyddiau adeiladu, ffensys, giatiau ac arwyddon ynghyd ac offer mawr megis siediau, tai gwydr, twneli poly, storfeydd a chafnau dŵr. Mae modd hefyd defnyddio’r arian i baratoi’r tir, yn enwedig os yw’r maes yn un sydd heb gael ei ddefnyddio ers tro. Gellid hefyd defnyddio’r arian i fuddsoddi mewn technoleg i helpu i hyrwyddo ac i reoli rhandiroedd.
Mae modd canfod ffurflen gais sy’n amlinellu holl ofynion y grant ar wefan Cyngor Gwynedd. Mae angen i unrhyw geisiadau gael eu cwblhau erbyn 1 Rhagfyr 2023.