Cyngor Gwynedd yn ehangu’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag

Hydref 2024 | Arfor, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod yn ehangu’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag er mwyn cefnogi prynwyr tai lleol. Mae’r cynllun, sydd wedi bod yn weithredol ers 2021, yn darparu cymorth i unigolion a theuluoedd droi eiddo gwag yn dai o safon drwy grantiau adnewyddu. Hyd yma roedd y grantiau hyn ond ar gael i brynwyr tro cyntaf, ond mae’r cynllun bellach yn agored i bob prynwr sy’n gymwys. Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cynyddu uchafswm y grant o £15,000 i £20,000 i adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol mewn costau nwyddau a gwasanaethau yn ddiweddar.

Mae’r cynllun £4 miliwn yn cael ei ariannu gan gyllid a ddaw yn sgil y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a hyd yma mae 170 o drigolion drwy Wynedd wedi elwa ohono. Mae’r rhaglen hon yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach Cyngor Gwynedd sydd wedi ei ffurfio o 33 prosiect unigol gwerth cyfanswm o £140 miliwn yn enw sicrhau fod gan drigolion lleol fynediad at gartrefi fforddiadwy yn eu hardaloedd lleol.

Mewn datganiad dywedodd Gethin Jones, sydd wedi derbyn Grant Cartrefi Gwag Gwynedd ac wedi prynu tŷ yn Chwilog ger Pwllheli:

‘Dan ni’n edrych ymlaen at setlo lawr yn ein cartref yma yn Chwilog, a chychwyn pennod newydd fel teulu efo babi ar y ffordd. Mae’r Grant Cartrefi Gwag wedi helpu ni i gwblhau atgyweiriadau hanfodol i’r tŷ, fel gosod ffenestri newydd, ailadeiladu’r simnai a gwaith trydanol, yn llawer cyflymach na fysa ni wedi gallu gwneud ar ben ein hunain, a chael y lle yn barod i ni fel teulu mewn da bryd. Heb y grant, fysa ni ddim lle ydan ni rŵan, mae hynny’n saff! Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cario mlaen i weithio ar y tŷ a’i wneud yn gartref am flynyddoedd i ddod.

Roedd y tŷ wedi bod yn wag ers dros flwyddyn cyn i ni symud i mewn, ac roedd y cyn-berchennog, dynes leol, wir eisiau ei werthu i bobl leol. Gafodd y ddau ohonom ni ein magu yn agos i Chwilog ac mae’n golygu lot i ni i allu aros yn agos i’n teuluoedd a magu ein plentyn yn yr ardal ‘dan ni’n nabod a charu.’

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

‘Mae bron i 5,400 o dai gwag yn y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys ail gartrefi, sy’n wrthgyferbyniad llwyr i’r ffaith bod bron i 900 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n gwbl anfoesol bod gymaint o gartrefi Gwynedd yn segur pan fo’r galw am dai mor uchel ac mae’r ymyrraeth yma, ynghyd â mesurau eraill yng Nghynllun Gweithredu Tai’r Cyngor, yn hollbwysig i ddiogelu dyfodol ein cymunedau.

Rydym wedi gwrando ar bobl Gwynedd – mae mwy a mwy o bobl angen ein cefnogaeth, boed hynny’n brynwyr tro cyntaf neu deulu sydd mewn angen dybryd am dŷ mwy. Mae prisiau hefyd wedi codi ers i ni lansio’r cynllun yn 2021, ac rydym wedi addasu i adlewyrchu’r realiti yma trwy gynyddu’r grant sy’n cael ei gynnig.

Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n edrych i brynu tŷ gwag neu cyn ail gartref i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm Tai Gwag y Cyngor am sgwrs.’

Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Gwynedd drwy ymweld â gwefan Cyngor Gwynedd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This