Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod yn lansio pecyn grantiau newydd er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig i gryfhau gwydnwch a gwella’u heffeithlonrwydd. Mae’r Grantiau Gwydnwch Busnes wedi’u hariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac yn cynnig grantiau hyd at £15,000 i fusnesau lleol cymwys.
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau galw heibio ar y cyd â Busnes Cymru a Menter Môn. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i’r rheini sy’n rhedeg busnesau lleol drafod ceisiadau gyda’r tîm gweinyddu ac i drefnu sesiwn wyneb yn wyneb gyda chynghorwyr busnes.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau ac yn y lleoliadau canlynol:
14 Gorffennaf: Porthmadog – Hwb Arloesi, LL49 9NU
17 Gorffennaf: Tywyn – Neuadd Pendre, LL36 9DP
22 Gorffennaf: Pwllheli – M-SParc Ar Y Lôn, LL53 5RT
29 Gorffennaf: Dolgellau – Tŷ Newyddion, LL40 1AS
31 Gorffennaf: Llanberis – Y Ganolfan, LL55 4UR
06 Awst: Nefyn – Yr Heliwr, LL53 6HD
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:
“Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gwmnïau sydd angen hwb ychwanegol i’w cynorthwyo gyda’r busnes. Dwi’n falch bod Cyngor Gwynedd wedi gallu cynnig y ddarpariaeth yma er mwyn buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig o fewn y sir. Dwi’n annog perchnogion busnes i fanteisio ar y cyfle a bwrw ati pan fydd y ffenest ymgeisio yn agor i ddod a’u ceisiadau ymlaen.”
Mae ceisiadau ar gyfer rownd gyntaf y grant eisoes ar agor, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Gwener 15 Awst 2025. Bydd yr ail rownd yn agor ym mis Medi eleni. Am fwy o wybodaeth, ac i weld os yw eich busnes chi yn gymwys am y grant, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Gwynedd.

