Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi fod y gwaith o adeiladu tri chartref fforddiadwy yn Llanberis, y datblygiad cyntaf yn y rhaglen Tŷ Gwynedd ar fin cwblhau. Mae’r Cyngor yn annog pobl leol sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fyw yn un o’r cartrefi i gofrestru gyda’r gwasanaeth darparu tai lleol Tai Teg.
Dyma’r tai cyntaf i gael eu hadeiladu gan y Cyngor ar safle Dôl Afon Goch yn Llanberis ers 30 mlynedd. Mae yna ddau dŷ pâr gyda dwy ystafell wely ac un tŷ ar wahân gyda thair ystafell wely wedi eu hadeiladu fel rhan o’r cynllun, gyda’r bwriad i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau ym mis Tachwedd eleni.
Bydd y tai yn cael eu gwerthu drwy ddull benthyciad ecwiti gan Gyngor Gwynedd, er mwyn ceisio sicrhau pris sy’n fforddiadwy i bobl leol a sicrhau fod y tai yn parhau yn nwylo pobl leol yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae Dôl Afon Goch yn Llanberis yn garreg filltir bwysig i Gyngor Gwynedd, gan mai dyma’r datblygiad cyntaf o gartrefi a godwyd fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Tai. Mae’n amlwg bod angen mawr am dai fforddiadwy canolraddol, yn Llanberis ac ar draws Gwynedd, ac mae’r Cynllun Tŷ Gwynedd yn un o’r ffyrdd yr ydym yn ymateb i’r galw hwnnw. Os hoffech wneud cais am un o’r tai, dyma’r amser i gofrestru.
Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb yn y tai, felly, i ymweld â safle we Tai Teg er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gofrestru am dŷ fforddiadwy.”
I weld y meini prawf, a gwirio os ydych yn gymwys i wneud cais i brynu un o’r tai, dilynwch y ddolen hon i wefan Tai Teg. I ddysgu mwy am Tŷ Gwynedd, dilynwch y ddolen hon.

