Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod yn ail-lansio cynllun gwresogi Croeso Cynnes ar gyfer y gaeaf, bydd yn gweld busnesau a sefydliadau lleol yn agor eu drysau i ddarparu lloches a gwres i’r rheini sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi.
Dechreuwyd y cynllun gwreiddiol ym mis Hydref 2022 fel ymateb i’r argyfwng costau byw a’r cynnydd sylweddol ym mhrisiau ynni. Mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw fusnesau neu sefydliadau sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun i gofrestru ar ei gyfer drwy ymweld â’i gwefan. Mae’r cynllun yn cael ei weithredu ar y cyd â Menter Môn a’r gobaith yw gweld mwy o leoliadau yn darparu gofodau cynnes i drigolion yr ardal eleni ac i mewn i’r flwyddyn newydd.
Dywedodd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd:
‘Gyda’r gaeaf yn brysur ein cyrraedd rwyf yn annog sefydliadau a busnesau’r sir sydd efo diddordeb cynnig lle diogel a chynnes i bobl i wneud hynny drwy gofrestru gyda’r cynllun Croeso Cynnes.’
‘Gyda chostau trydan a nwy yn parhau i fod yn boen meddwl i nifer fawr o bobl, mae mor bwysig ein bod yn dod at ein gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r ymdrech gymunedol hon.’
‘Rwyf yn hynod o ddiolchgar i’r holl grwpiau a busnesau ddaru gymryd rhan yn y cynllun gaeaf diwethaf ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y gaeaf yma hefyd.’
‘Felly peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun a gwnewch y mwyaf o’r llefydd diogel a chynnes sydd ar gael i chi.’
Mae modd cofrestru ar gyfer y cynllun a gweld map o’r lleoliadau sy’n cymryd rhan drwy ymweld a gwefan Cyngor Gwynedd.