Cyngor Gwynedd yn cyflwyno cynllun newydd i fynd i’r afael a digartrefedd

Medi 2024 | Sylw

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod am gyflwyno cynllun ‘Tai yn Gyntaf’ gan benodi’r elusen digartrefedd The Wallich i arwain y gwasanaeth. Mae cynlluniau ‘Tai yn Gyntaf’ yn gweithio drwy ddarparu tai i’r digartref yn syth gan ddarparu cefnogaeth ychwanegol fel bo’r angen.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, roedd bron 1,000 o bobl wnaeth gyflwyno yn ddigartref yn yr awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn 2023-24, nifer ohonynt ag anghenion cymhleth iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol a hanes o droseddu.

Drwy ddarparu tŷ yn syth i’r digartref, y nod yw helpu unigolion i dorri’r cylch sy’n gallu cael ei waethygu o gael eu gosod mewn llety argyfwng, yna llety dros dro cyn cael llety parhaol yn y pen draw. Y syniad yw bod darparu cartref parhaol a diogel yn galluogi gweithwyr achos i roi cymorth a’r gefnogaeth ddwys sydd wedi ei deilwra’n arbennig i helpu’r unigolion sydd ei angen. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd yn sgil Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru bydd yn galluogi gweithwyr achos roi cymorth i 20 o unigolion digartref yn y sir

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

‘Mae model Tai yn Gyntaf yn defnyddio’r cartref fel man cychwyn, yn hytrach na’r gôl derfynol, ac mae’n caniatáu i bobl sy’n profi digartrefedd gael cefnogaeth sy’n addas ar gyfer eu hanghenion arbennig eu hunain mewn gofod saff a sefydlog.

Dw i’n croesawu’r prosiect newydd yma ac yn edrych ymlaen at weld y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth efo The Wallich i ddarparu’r cyfleoedd gorau i bobl ddigartref yng Ngwynedd i ailadeiladu eu bywydau.

Does dim ateb sy’n addas i bawb pan mae’n dod at daclo digartrefedd, efo pob achos a stori mor unigryw – mae’r dull yma’n rhan o strategaeth amlweddog gan Gyngor Gwynedd i drio atal, trechu a dod â digartrefedd i ben yn y Sir.’

Dywedodd Sophie Haworth-Booth, Arweinydd Gweithredol Strategol i The Wallich:

‘Agorodd The Wallich gynllun Tai yn Gyntaf cyntaf Cymru fwy na 10 mlynedd yn ôl – ac mae’n gweithio! Dan ni’n hynod gyffrous bod ein tîm bellach yn gallu rhannu eu harbenigedd i gefnogi pobl sydd angen tai yng Ngwynedd. To uwch ben rhywun yw’r cam cyntaf allan o ddigartrefedd, ac mae’r cefnogaeth cofleidiol hollbwysig hefyd yn cadw pobl yn eu cartref am y tymor hir.  Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y gwasanaeth newydd hwn ar y gymuned leol.’

I ddysgu mwy, dilynwch y ddolen hon i wefan The Wallich.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This