Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi bod cyfle i drigolion y sir sydd eisiau cyfrannu i weithgarwch y Cyngor i wneud hynny drwy ymgeisio i fod yn Aelodau Lleyg o ddau bwyllgor. Mae’r Cyngor bellach yn derbyn ceisiadau i drigolion fod yn Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Safonau ac ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Bydd y rheini sy’n llwyddiannus yn eu cais yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith gweinyddu ac arolygu’r Cyngor.
Pwrpas y Pwyllgor Safonau yw sicrhau safonau uchel o ymddygiad ymhlith cynghorwyr etholedig y Cyngor gan ddarparu arweiniad ar Gôd Ymddygiad y Cyngor.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn darparu sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd rheoli risg y Cyngor, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, trin cwynion a phrosesau adrodd ariannol. Mae hyn yn waith sydd yn hanfodol i lywodraethant effeithiol Cyngor Gwynedd.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Dyma gyfleoedd unigryw i wneud gwahaniaeth a chael dylanwad ar lywodraethu a chynnal safonau o fewn llywodraeth leol.
“Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig a brwdfrydig, sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhain yn gyfleoedd gwych naill ai i agor y drws i fywyd cyhoeddus, neu i rannu profiad ac arbenigedd.
“Os ydych yn berson gwrthrychol, yn gallu meddwl yn annibynnol gyda sgiliau cyfathrebu da, os gwelwch yn dda ystyriwch y cyfleoedd hyn.”
I ddysgu mwy am y gwaith, ynghyd a’r manylion cymhwyso, dilynwch y ddolen hon ar gyfer y Pwyllgor Safonau a’r ddolen hon ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

