Cyngor Gwynedd i ystyried newid y system bleidleisio leol

Gorffennaf 2024 | Polisi gwledig, Sylw

Person Dropping Paper On Box

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn clywed barn y cyhoedd ar newid y system bleidleisio mewn etholiadau Cyngor Sir. Ar hyn o bryd mae cynghorwyr yn cael eu hethol drwy system gyntaf i’r felin. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i gynghorau ddewis un o ddwy system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol, y system gyntaf i’r felin bresennol a elwir yn System Mwyafrif Syml neu System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy sydd yn system fwy cyfrannol.

Mewn datganiad, dywedodd Menna Trenholme yr Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Cefnogaeth Gorfforaethol:

‘Rydym eisiau clywed barn pobl Gwynedd ac mae cyfle i bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd i lenwi holiadur byr.

Fel rhan o’r broses ymgynghori hon, rydym hefyd yn casglu barn cynghorau cymuned, cynghorau tref a’r cyngor dinas yng Ngwynedd.’

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 15 Gorffennaf a 15 Medi 2024. Bydd cynghorwyr wedyn yn mynd ati i astudio’r dystiolaeth a dod i benderfyniad terfynol ar y mater mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2024.

Mae modd dysgu mwy am y newidiadau a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cyngor Gwynedd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This