Cyngor Gwynedd i benderfynu ar reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau

Gorffennaf 2024 | Arfor, Sylw, Tlodi gwledig

a group of buildings by the water

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd ar 16 Gorffennaf 2024 i ystyried adroddiad sy’n argymell cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn rhoi’r gallu i’r cyngor reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau. Bydd y cam yn gorfodi perchnogion tai i dderbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu’n llety gwyliau tymor byr.

Mae hyn yn dod wedi cyfnod ymgynghori ac ymgysylltu cyhoeddus a lansiwyd llynedd, ac yn ôl Cyngor Gwynedd maent wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd yn ofalus wrth ystyried y polisi arfaethedig. Mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor ym mis Mai eleni, cafwyd trafodaeth ynghylch yr ymatebion hyn ac fe roddwyd argymhelliad i’r Cabinet i fwrw ymlaen a chadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Mae’r newid yn dyfod wedi i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r fframwaith cynllunio cenedlaethol gan gyflwyno tri dosbarth defnydd newydd ar gyfer cartrefi, sef prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae’n rhoi’r gallu i gynghorau sir fel yr awdurdod cynllunio lleol i newid polisïau cynllunio lleol er mwyn sicrhau fod angen caniatâd cynllunio arbennig i newid o un dosbarth defnydd i’r llall.

Os caiff y polisi ei dderbyn gan gabinet y Cyngor, bydd y newidiadau yn dod i rym o 1 Medi 2024 yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ond nid o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Nid yw’r newid yn gorfodi eiddo sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn 1 Medi 2024 i geisio caniatâd cynllunio ar eu cyfer.

Mewn datganiad, dywedodd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

‘Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.

Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.

Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau. Byddai’r newid yn golygu y byddai angen i berchnogion gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo preswyl yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen, Gwynedd fyddai’r Awdurdod Cynllunio cyntaf i ddefnyddio’r pwerau cynllunio newydd yma a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.

Mae gwaith manwl wedi ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu’r achos dros gyflwyno’r newid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.

Mae’r sylwadau wedi derbyn ystyriaeth gofalus ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor a bydd y Cabinet rŵan yn ystyried yr holl dystiolaeth wrth benderfynu os am gadarnhau i weithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fis Medi ymlaen.’

Gallwch ddysgu mwy am Gyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cyngor Gwynedd.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This