Cyngor Gwynedd i apelio dyfarniad yr Uchel Lys ar ganiatâd cynllunio i ail gartrefi

September 2025 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod am gychwyn y broses i apelio dyfarniad gan yr Uchel Lys ar Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Daeth y polisi i rym ym mis Medi 2024 gan gyflwyno tri dosbarth newydd i gartrefi yn y sir, prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Mae hefyd yn gorfodi perchnogion tai i dderbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu’n llety gwyliau tymor byr. Nod y polisi oedd ceisio rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau a chynyddu’r niferoedd o dai sy’n cael eu defnyddio fel prif gartrefi.

Fe wnaeth y grŵp o ymgyrchwyr ‘Pobl Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4’ lansio apêl yn erbyn cyflwyno’r mesurau yn yr Uchel Lys, ac ar fore Mercher 24 Medi daeth dyfarniad gan y llys yn datgan nad oedd cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn gwybodaeth gywir cyn gwneud y penderfyniad i gadarnhau Erthygl 4. Dywedodd y barnwr fod y dogfennau a gylchredwyd i gynghorwyr cyn y bleidlais “wedi eu camarwain yn sylweddol” ynghylch natur y mesurau.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn gonglfaen i strategaeth tai’r Cyngor, sydd wedi gweld yr awdurdod yn ceisio mynd i’r afael a’r argyfwng tai lleol drwy gynyddu treth cyngor ar ail gartrefi, prynu tir i adeiladu tai a dechrau ail adeiladu’r stoc dai cymdeithasol sydd yn eu perchnogaeth

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Eyre, fod adroddiad swyddogion Gwynedd a’r wybodaeth a ddarparwyd ganddynt i’r cabinet yn gamarweiniol gan nad oedd Erthygl 4 yn “fesur cyffredinol ar gyfer pob cartref gwyliau newydd, dim ond ar gyfer y rhai lle mae newid defnydd yn ‘berthnasol’, neu’n arwyddocaol.” Gallwch ddarllen adroddiad swyddogion y Cyngor a’r dogfennau a gyflwynwyd i gynghorwyr drwy ddilyn y ddolen hon. Mae modd darllen papur cyfiawnhau cyflwyno Erthygl 4, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 drwy ddilyn y ddolen hon.

Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau. I wneud hyn, rydym wedi cymryd camau rhagweithiol yn cynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r nifer sylweddol o gartrefi sy’n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr. 

Dangosodd ymchwil cyn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65% o aelwydydd Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r broblem yn hyd yn oed fwy difrifol mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o dai gwyliau.  

Rydym yn hynod siomedig gyda’r dyfarniad, a byddwn yn bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl er amddiffyn ein penderfyniad o gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Holl bwrpas y mesur yma ydi sicrhau tegwch i bobl Gwynedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy ein cymunedau gan roi mwy o reolaeth i’r Cyngor a sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu anghenion lleol. 

Mae gan bawb hawl i gartref yn eu cymuned, a byddwn rwan yn bwrw ymlaen i amddiffyn ein hachos yn gadarn trwy’r broses gyfreithiol.” 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This