Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) wedi lansio cynllun grant newydd sydd a’r nod o ariannu prosiectau cymunedol mewn ardaloedd ar hyd arfordir Cymru. Bwriad y grant yw dod a gwahanol unigolion a grwpiau ynghyd a’u hannog i gyd weithio i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Enw’r cynllun yw’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol ac fe fydd y grantiau yn cael eu dosbarthu drwy gyfrwng y Partneriaethau Natur Leol.
Mae’r CGGC am weld gweithgarwch cynaliadwy sydd am hybu twf mewn ardaloedd arfordirol a’u gobaith yw bydd y grant hwn yn hwyluso hynny. Mae yna £500,000 o gyllideb flynyddol gan y cynllun, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a bydd rhaid i geisiadau ddangos eu bod yn brosiectau bydd yn para pum mis neu fwy a gwerth o leiaf £20,000. Dyddiad cau terfynol y ceisiadau yw 31 Mawrth 2025. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i rownd gyntaf y cynllun yw 22 Medi 2023.
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths:
‘Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu cyllid i gefnogi prosiectau pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth wella canlyniadau amgylcheddol ein cymunedau arfordirol.
Mae nifer o fentrau y gallai’r gronfa eu cefnogi, o wella cadwyni cyflenwi bwyd y môr lleol a’u gwneud yn fwy cynaliadwy, i roi syniadau ar gyfer ailgylchu ar waith a meithrin dealltwriaeth o sut i wella ansawdd dŵr.
Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ystyried gwneud cais i’r gronfa.’
Dywedodd Pennaeth Grantiau ac Incwm WCVA, Catherine Miller:
‘Rydym yn croesawu Cynllun Adeiladu Capasiti’r Arfordir, cronfa arloesol fydd yn helpu cymunedau arfordirol yng Nghymru i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu amgylcheddau’r môr a’r arfordir.
Rydym wir yn disgwyl ymlaen at weld beth gall y gronfa hon ei wneud er lles cymunedau arfordir Cymru.’
I ddysgu mwy am y gronfa, ac i ddysgu sut y gallwch wneud cais ac i weld enghreifftiau o rhai o’r prosiectau peilot, dilynwch y ddolen hon i wefan CGGC.