Ar ôl blwyddyn brysur a chyffrous ers ei lansio, mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn paratoi i gyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf. Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r prosiectau ymchwil sydd wedi eu dechrau a’r rheini sydd wedi eu cyflawni yn barod dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos dyfnder y prosiectau a’r partneriaethau amrywiol sy’n digwydd ar draws y Gymru wledig.
Nododd Swyddog Ymgysylltu’r LPIP, Rhian Curtis:
“Mae wedi bod yn gyffrous iawn dod â’r prosiectau ynghyd yn yr adroddiad hwn. Edrychwn ymlaen at arddangos nid yn unig y prosiectau pwysig sy’n digwydd ar hyn o bryd gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales a’n partneriaid yn y gymuned, ond hefyd yr argymhellion pwysig sydd wedi codi o’r prosiectau a gwblhawyd eisoes. Mae’r ymchwil wedi datgelu rhai argymhellion clir a allai gael effaith mawr a bod o fudd sylweddol i’r sawl sy’n byw mewn cymunedau yng Nghymru Wledig, ac edrychwn ymlaen at ddod â’r argymhellion hyn i wneuthurwyr polisi ac arweinwyr lleol a chenedlaethol, gyda’r nod o greu newid parhaus a phositif.”
Gan adleisio sylwadau blaenorol tebyg, dywedodd Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales, yr Athro Michael Woods:
“Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar atebion. Nid ydym yn gwneud ymchwil er mwyn gwneud ymchwil yn unig, ond er mwyn gwneud gwahaniaeth”.
Mae’r tîm rheoli yn gobeithio bydd yr adroddiad hwn yn cefnogi ac ysbrydoli’r nifer o brosiectau eraill hynod werthfawr sydd yn cael eu rhedeg yng Nghymru a thu hwnt ar hyn o bryd.
Un o’r camau nesaf yn eu gwaith yw lansio gronfa Ymchwil Arweiniwyd gan y Gymuned Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Dyma gyfle newydd i chwe chymuned wledig dderbyn £20,000 i archwilio beth sydd o bwys lleol a all arwain at newid positif. Mae mwy o wybodaeth, y ffurflen gais am y gronfa, a’r cyfle i drafod eich syniadau gyda’r partner strategol yr LPIP Together for Change yma: Cymru Wledig LPIP Rural Wales – Community-led Action Research – Together for Change
Bydd yr adroddiad blynyddol yn cael ei lansio yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, ar gampws Prifysgol Aberystwyth ar 30 Mehefin, mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Gynhadledd Flynyddol WISERD ac yna ar gael i’w lawrlwytho ac ar ffurf copïau caled. Bydd Cymru Wledig LPIP Rural Wales hefyd yn bresennol yn y Sioe Frenhinol Llanfair-ym-Muallt (21-24 Gorffennaf) ac yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam (4-8 Awst) lle bydd cyfle i siarad gyda’r tîm a dysgu mwy am y prosiect.
Am gopi o’r adroddiad blynyddol, cliciwch yma: Cymru Wledig LPIP Rural Wales Adroddiad Blynyddol.

