Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Cymru fydd yn cynnal digwyddiad rhyngwladol arbennig yn edrych ar yr economi gylchol yn 2024. Bydd yr Hotspot Economi Gylchol Ewropeaidd 2024 yn cael ei gynnal rhwng 7 a 9 Hydref 2024 yng Nghaerdydd.
Mewn datganiad nododd Llywodraeth Cymru y bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu llwyddiannau economi gylchol Cymru ac i ddysgu am ddatrysiadau gan gynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus, y sector breifat a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd trawstoriad eang o sefydliadau o fywyd cyhoeddus Cymru yn mynychu gan gynnwys unigolion o faes diwydiant, meysydd academaidd, mentrau cymunedol, busnes a chyrff cyhoeddus.
Mae’r Hotspot Economi Gylchol Ewropeaidd yn ddigwyddiad sy’n teithio yn flynyddol. Yn 2023 cynhaliwyd y digwyddiad yn Nulyn. Am ragor o wybodaeth ac am fanylion am sut i fynychu dilynwch y ddolen hon i wefan y digwyddiad.