Cymru i dderbyn hanner biliwn o’r Gronfa Twf Lleol

October 2025 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd hanner biliwn o bunnoedd yn cael ei wario yng Nghymru fel rhan o’r Gronfa Twf Lleol. Y Gronfa yw’r rhaglen ariannu sydd wedi ei sefydlu i gymryd lle arian oedd arfer dyfod o’r Undeb Ewropeaidd cyn ymadawiad y DU.

Bydd penderfyniadau ynghylch sut i wario’r arian yn digwydd yng Nghymru unwaith yn rhagor, yn dilyn addewid ym maniffesto i sicrhau hynny gan y Blaid Lafur. Bydd fframwaith yn gosod blaenoriaethau a phrosesau ar gyfer dosrannu’r arian, gyda chynllun cyflawni wedi ei ddatblygu a’i arwain gan Lywodraeth Cymru. Bydd hefyd cyfle i awdurdodau lleol a phartneriaid eraill chwarae rhan wrth benderfynu sut y gellid gwario’r arian.

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar sut i wario’r arian yn hwyrach yn y mis. Ymysg y blaenoriaethau sydd wedi’u rhestru gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr arolwg yw’r canlynol:

  • Sut y gellid cefnogi pobl i gael gwaith a helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau newydd i symud ymlaen i swyddi gyda chyflog uwch fel bod cyfran fwy o’n poblogaeth yn cael ei chyflogi
  • Sut y gellid helpu i greu a thyfu busnesau Cymru mewn sectorau allweddol a hybu buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi, mewn meysydd fel iechyd a biodechnoleg, technoleg ariannol, ynni carbon isel a deallusrwydd artiffisial.
  • Sut y gellid mynd i’r afael â’r materion sy’n atal twf, fel yr angen am safleoedd ac adeiladau allweddol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, effeithlonrwydd ynni, a thrafnidiaeth carbon isel.

Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Mae ein Cronfa Twf Lleol newydd ni i Gymru yn gyfle arwyddocaol i gefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i dyfu, allforio ac arloesi – yn enwedig mewn sectorau twf uchel fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch a thrawsnewid digidol. Drwy fynd i’r afael â rhwystrau fel mynediad at gyllid ac annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, gallwn helpu i greu economi fwy cystadleuol a gwydnach yng Nghymru.

Mae cefnogi pobl i waith a’u helpu i wneud cynnydd yn hanfodol i leihau anweithgarwch economaidd. Drwy sicrhau bod y sgiliau sy’n cael eu datblygu’n cyd-fynd ag anghenion ein heconomïau rhanbarthol, gallwn sicrhau bod pobl ledled Cymru mewn sefyllfa dda ar gyfer swyddi’r dyfodol.

Rydym yn awyddus i weld ffocws cadarn ar seilwaith gwyrdd, effeithlonrwydd ynni ac adfywio lleol. Byddwn yn annog buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth carbon isel, a threftadaeth. Bydd twristiaeth yn cael ei chefnogi mewn ffordd sy’n helpu ein cymunedau i ffynnu.

Rwy’n falch iawn, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y DU, y bydd y penderfyniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y gronfa hon yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Mae’r buddsoddiad hwn o fwy na hanner biliwn o bunnoedd gan Lywodraeth y DU yn allweddol i sbarduno twf economaidd yng Nghymru, gan helpu i dyfu busnesau a chael mwy o bobl i swyddi gyda chyflog da.

Pobl yng Nghymru sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae’r arian hwn yn cael ei wario ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ein blaenoriaeth ar y cyd o sicrhau twf, ffyniant a chyfle ledled y wlad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Bydd y gronfa newydd hon yn canolbwyntio ar gefnogi twf a chynhyrchiant rhanbarthol, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd.

Byddwn yn gweithio ar unwaith nawr gyda’n partneriaid i flaenoriaethu buddsoddiad ym mhob rhanbarth.”

Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch y cyllid yn cael ei gyhoeddi dros y misoedd nesaf yn ôl y datganiad.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This