Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi lansio eu Maniffesto Gwledig yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Mae’r ddogfen yn amlinellu gweledigaeth arbennig CLlLC ar gyfer cefn gwlad Cymru, gan ganolbwyntio ar wireddu potensial cymunedau gwledig ac adeiladu gwytnwch cymunedol.
Datblygwyd y maniffesto gan Fforwm Gwledig y Gymdeithas, ac yn nodi camau ymarferol gellid eu cymryd ynghyd a gofynion polisi penodol er mwyn ceisio dylanwadu ar y drafodaeth gyhoeddus wrth i nesáu at etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Mae’r maniffesto yn dilyn blynyddoedd o gydweithio rhwng CLlLC a chynghorau gwledig, grwpiau cymunedol a phartneriaid cenedlaethol ac ymysg pethau eraill yn pwysleisio ymrwymiad y sefydliad at bontio i sero net mewn modd cyfiawn, parhad a ffyniant yr iaith Gymraeg ac economïau lleol cryf.
Ynghyd a nifer o ofynion polisi manwl mae i’r maniffesto chwech o ‘Ofynion Cyffredinol’ i wneuthurwyr polisi, sy’n amlinellu’r egwyddorion sydd wrth wraidd y ddogfen:
- Rhoi cyllid cynaliadwy a theg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a datblygiad gwledig ar draws pob rhan o Gymru, a chydnabod y costau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig a’r galw ychwanegol ar y gwasanaethau hynny oherwydd poblogaeth hŷn gynyddol.
- Datblygu Cynllun Datblygu Gwledig cadarn a chynhwysfawr ar gyfer Cymru, gan amlinellu’r camau gweithredu integredig sydd eu hangen ar draws pob maes polisi a gwasanaeth a fyddai’n datgloi potensial cymunedau gwledig ledled Cymru ar gyfer tŵf economaidd, gwytnwch cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol a bywiogrwydd diwylliannol.
- Cydnabod y potensial ar gyfer adfywio cymdeithasol ac economaidd mewn ardaloedd gwledig a sicrhau newid cyfiawn i sero net mewn cymunedau gwledig drwy ymrwymo i ddarparu adnoddau ar gyfer Datblygiad Lleol dan Arweiniad y Gymuned yng Nghefn Gwlad Cymru, i’w gyflawni drwy gynghorau gwledig, i gefnogi mentrau llawr gwlad ac isadeiledd lleol sy’n bwysig i gymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog.
- Rhoi sylw penodol i faterion gwledig yn y Senedd i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn llawn ar draws pob agwedd o bortffolios Llywodraeth Cymru.
- Datblygu a defnyddio offeryn prawf-fesur gwledig mwy cadarn a mesurydd asesu effaith gwledig i’r prawf-fesur porth polisi ar gyfer asesu’r holl gynigion polisi, deddfwriaeth a chyllid cenedlaethol newydd, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael effaith negyddol ar ardaloedd gwledig.
- Gweithio gyda chynghorau a phartneriaid allweddol i archwilio, datblygu a gweithredu’r cynigion a nodir yn y maniffesto hwn ar gyfer Cymru wledig.
Mae yna hefyd awgrymiadau ynghylch ymyraethau polisi ymarferol gan gynnwys argymhellion ym maes ysgolion ac addysg yn ddiddorol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhaglen Ieuenctid Gwledig arbennig er mwyn gwella sgiliau, denu a chadw pobl ifanc galluog a medrus mewn cymunedau gwledig.
- Cynllun Prentisiaeth Gwledig bydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc weithio mewn sefydliadau’r sector cyhoeddus a sectorau allweddol.
- Gweithio ar y cyd gyda’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Gwasanaeth Natur Cymru er mwyn archwilio cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau gwyrdd, ac edrych ar y modd y gellid cyfuno hyn â chynnig tai fel modd i annog graddedigion â sgiliau allweddol yn y maes i ddychwelyd yn ôl i gymunedau gwledig Cymru.
Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Cyd-lefarydd CLlLC dros Faterion Gwledig:
“Mae’r maniffesto hwn yn arwydd clir bod llywodraeth leol yn barod i weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru i gyflawni dros Gymru wledig. Mae cymunedau gwledig yn wynebu heriau unigryw, o fynediad at wasanaethau a thai fforddiadwy i gysylltedd digidol a gwytnwch hinsawdd. Mae ffermio yn ganolog i’n heconomi a’n diwylliant gwledig, ac mae’n rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddarparu cefnogaeth ystyrlon i’n cymunedau amaethyddol. Ond mae Cymru wledig hefyd yn cynnig potensial enfawr a dyma asgwrn cefn ein cenedl. Gyda’r buddsoddiad a’r bartneriaeth gywir, gallwn sicrhau cymunedau gwledig ffyniannus a ffyniannus ledled Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Cyd-lefarydd CLlLC dros Faterion Gwledig:
“Edrychwn ymlaen at fwrw ymlaen â gofynion allweddol ein Maniffesto Gwledig gyda’n holl bartneriaid allweddol i sicrhau nad yw’r holl gynigion polisi, cyllid a deddfwriaethol cenedlaethol newydd yn effeithio’n negyddol ar ardaloedd gwledig. Bydd datgloi potensial ac adeiladu gwytnwch ein cymunedau gwledig trwy fabwysiadu dull creu lleoedd yn eu gwneud yn lleoedd deniadol i fyw, gweithio a ffynnu”.
Mae modd darllen y maniffesto yn ei gyfanrwydd a pori drwy’r amrywiaeth eang o gynigion polisi sy’n cael eu cynnig drwy ddilyn y ddolen hon.

