Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bydd cyllid y rhaglen ‘Balchder Bro’ yn cael ei ddosbarthu ar draws Cymru er mwyn ceisio ‘adfer balchder’ mewn cymunedau lleol. Nod y rhaglen yw cynorthwyo pobl i neud gwelliannau i’w hardaloedd lleol drwy ddarparu cyllid gall drawsnewid y stryd fawr, achub cyfleusterau lleol a meithrin balchder o’r newydd yn eu cymunedau.
Bydd y cynllun, a lansiwyd gan y Prif Weinidog Keir Starmer, yn gweld cymunedau lleol yn nodi lle a sut y bydd arian yn cael i wario. Bydd yr awdurdodau lleol canlynol yn derbyn £20 miliwn yr un i wella’u hardaloedd:
- Blaenau Gwent
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Rhondda Cynon Taf
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Caerdydd
- Abertawe
Ynghyd a hyn, bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn derbyn cyfran o £34.5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella mannau cyhoeddus ac i fynd i’r afael a phethau fel trwsio llochesi bysiau, ailagor toiledau cyhoeddus mewn parciau, darparu mwy o finiau ac ailwampio canolfannau hamdden.
Mewn datganiad dywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer:
“Rydym ni’n buddsoddi yn nyfodol y Deyrnas Unedig, drwy gefnogi’r gwir wladgarwyr sy’n adeiladu ein cymunedau mewn cymdogaethau ym mhob cwr o’r wlad. Oherwydd pobl sy’n dod â balchder, gobaith a bywyd i’n cymunedau.
Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ond yr hyn sydd bwysicaf yw pwy sy’n penderfynu sut mae’n cael ei wario: y cymdogion, y gwirfoddolwyr a’r rhieni sy’n adnabod eu cymunedau orau – y bobl sydd â buddsoddiad yn y gymuned.
Rydym ni’n dewis adnewyddu dros ddirywiad, undod dros raniadau. Dyma’r Cynllun ar gyfer Newid ar waith – rhoi grym a balchder yn ôl i’r bobl sy’n gwneud Prydain yn wych.”
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar gyflawni twf economaidd a rhoi cyfle i bawb, ac mae rhaglen Balchder Bro yn rhan allweddol o sut rydym ni’n gwneud hynny.
Bydd dros £200 miliwn o fuddsoddiad newydd yn arwain at welliannau i gymunedau ar hyd a lled Cymru, gan eu gwneud yn llefydd gwell byth i fyw a gweithio ynddyn nhw.
Rydym ni eisiau gweithio gyda’n holl bartneriaid i wneud gwelliannau sy’n bwysig i bobl leol ac sy’n creu swyddi a ffyniant.”
Dywedodd Steve Reed, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol:
“Mae meithrin balchder bro yn dechrau gyda phobl, nid gwleidyddiaeth. Mae pobl leol yn gwybod beth maen nhw eisiau ei weld yn eu cymdogaethau – a does dim angen llywodraeth arnyn nhw i bennu hynny.
Bydd y cynllun hwn yn sbarduno mudiad hanesyddol ar lawr gwlad a fydd yn adfer pŵer pobl leol, yn rhoi hwb i falchder cenedlaethol a helpu pobl i symud ymlaen mewn bywyd ledled y DU fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.”
Mae Llywodraeth y DU wedi gwahodd awdurdodau lleol i gynnig cymunedau yn eu hardaloedd i gymryd rhan yn y Rhaglen Balchder Bro. Mewn datganiad nododd Llywodraeth y DU bydd hon yn “broses gynhwysol lle bydd yr awdurdod lleol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau presennol fel cynlluniau creu lleoedd a’r fenter Trawsnewid Trefi.”

