Cyhoeddi’r trydydd Fforwm Bwrlwm ARFOR

Mehefin 2024 | Sylw

Mae’r trydydd Fforwm Bwrlwm ARFOR wedi ei gyhoeddi gan gwmni Lafan, gyda’r cyfarfod yn cael ei  gynnal ar 26 Mehefin 2024. Mae’r Fforwm yn gyfle i unigolion sydd â diddordeb ym mhrosiectau ARFOR a dyfodol cymunedau Cymraeg Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs i drafod eu profiadau, yr hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad yn eu cymunedau ac i glywed rhai o’r datblygiadau diweddaraf gan bobl eraill sydd yn rhan o’r prosiect. Gall fod yn gyfle da i rwydweithio ac i ddod i ddysgu mwy am y diweddaraf ynghylch yr amrywiaeth o brosiectau sydd yn cael eu cefnogi gan brosiect ARFOR a’r sefydliadau, busnesau ac unigolion hynny sydd yn byw ac yn gweithio yn ein cymunedau Cymraeg ac er lles eu dyfodol.

Yn y cyfarfod, bydd cyflwyniad gan Trefi SMART Towns Cymru, sef cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hybu defnydd technoleg er mwyn datrys rhai o anghenion cymunedau.

Mae’r Fforwm yn cael ei gynnal yn rhithiol dros Zoom, ac mae croeso i bawb i fynychu. Cynhelir y drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydych am fynychu, mae modd cael rhagor o wybodaeth a dolen i’r cyfarfod drwy gysylltu â post@lafan.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This