Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi siaradwyr Cynhadledd NFU Cymru 2025. Bydd y gynhadledd yn cael ei gynnal eleni yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ar 6 Tachwedd rhwng 9:30yb a 4yh. Mae’r digwyddiad fel arfer yn un poblogaidd, gyda channoedd yn mynychu bob blwyddyn.
Bydd y gynhadledd yn agor gydag araith o Lywydd NFU Cymru, Aled Jones, gyda’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS yn annerch y gynulleidfa yn dilyn hynny.
Bydd ail sesiwn y dydd yn canolbwyntio ar sut mae mynd ati i dyfu’r sector fwyd yng Nghymru yng Nghwmni Karen Betts, Prif Weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod a Sarah Bradbury, Prif Weithredwr Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser.
Bydd y trydydd sesiwn yn darparu mewnwelediad i safbwyntiau Ewropeaidd a pholisïau amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghwmni Francie Gorman, Llywydd Cymdeithas Ffermwyr Iwerddon.
Ar ôl cinio bydd Dr Peter Noy, Cyfarwyddwr y Sefydliad Systemau Bwyd ym Mhrifysgol Nottingham yn arwain trafodaeth ar adeiladu system fwyd cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn. Bydd y sesiwn olaf yn rhoi cyfle i fynychwyr glywed gan Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn rhoi trosolwg o’r hinsawdd wleidyddol yng Nghymru a rhagolygon ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dywedodd Cyfarwyddwr NFU Cymru John Mercer:
“Mae’r cyffro yn cynyddu cyn Cynhadledd NFU Cymru eleni sy’n addo bod yn ddigwyddiad treiddgar arall yng nghyd-destun newidiadau sylweddol o fewn y diwydiant. Mae enw da’r gynhadledd wedi tyfu’n esbonyddol dros y ddegawd ddiwethaf, a dwi’n falch iawn ein bod unwaith eto wedi llwyddo i ddod a chyfres arbennig o siaradwyr ynghyd i ddarparu mewnwelediad, sylwebaeth a barn ar y materion sydd o bwys ar hyn o bryd i ffermwyr Cymru, ynghyd ac edrych ar yr hyn gall y dyfodol gynnig i’r diwydiant.”
Gall aelodau sydd am fynychu gofrestru drwy ffonio 01982 554200 neu drwy e-bostio nfu.cymru@nfu.org.uk. Mae hefyd modd i aelodau gofrestru ar wefan NFU Cymru.

