Cyhoeddi papurau Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg

Mehefin 2024 | Sylw

Eleni mae cynhadledd ymchwil blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 28 Mehefin. Mae yna nifer o bapurau ar ystod eang o bynciau bydd yn cael eu cyflwyno eleni. Bydd cyflwyniadau ar strategaethau amaethyddol, yr iaith o fewn cyd-destun gofal iechyd, y Cwricwlwm i Gymru, yr iaith yn y gweithle a llu o bynciau diddorol eraill.

Yn wir, mae amrywiaeth y pynciau dan sylw yn dangos ehangder y gwaith ymchwil sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a sut y mae’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg uwch bellach yn wirioneddol draws ddisgyblaethol ac yn ymestyn i bob maes.

Ar ddydd Iau 27 Mehefin bydd trafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial yng nghwmni Dr Cynog Prys (Uwch ddarlithydd, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor), Dr Seren Evans (Darlithydd, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor), Dr Neil Mac Parthaláin (Uwch ddarlithydd, Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth), ac yr Athro Huw Morgan (Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth). Mae yna hefyd gyfle i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i dderbyn hyfforddiant ar sut i rannu eu hymchwil mewn gwahanol ffyrdd.

Ymhlith y papurau bydd yn cael eu cyflwyno ar y diwrnod canlynol yn y gynhadledd ymchwil bydd:

  • ‘Gweriniaetholdeb amodol: Newid gwleidyddol yng Ngogledd America Prydeinig trwy lygaid yr Unol Daleithiau 1837–1867’ – Dr Gareth Hallett Davis (Prifysgol Abertawe)
  • ​​​​’O’r ymylon i’r canol: Ailystyriaeth o daith gerddorol Grace Williams’ – Elain Rhys Jones (Prifysgol Bangor)
  • ‘Dull cyfrifiadurol ar gyfer rheoli rhagweithiol ocsid ar biblinellau dur’ – Megan Kendall (Prifysgol Abertawe)
  • ​​​​​​’Strategaethau amaethyddol y dyfodol yng Nghymru: ai’r farchnad, y darparwyr gwasanaethau ecosystem, neu’r arloeswyr arbenigol sy’n arwain?’ – Gwenllian Jenkins (Prifysgol Aberystwyth)
  • ‘Mamiaith yn yr ystafell geni: Profiad merched a bydwragedd’ – Catrin Roberts (Prifysgol Bangor)
  • ‘Braslun astudiaeth ffactorau caffael iaith yn y gweithle’ – Dafydd Apolloni (Prifysgol Bangor)
  • ‘Ymhle y gellir dod o hyd i greadigrwydd yn ‘Cwricwlwm i Gymru’? Dadansoddiad o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru gan ystyried y cyfleoedd a’r heriau a gynigir i athrawon ar lawr y dosbarth’ – Megan Sass (Prifysgol Caerdydd)
  • ‘Datblygu profion llythrennedd Cymraeg newydd’ – Marjorie Thomas (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • ‘Olrhain ‘Y Bardd’: A ellir profi awduraeth tair cerdd anhysbys ymhlith papurau Gwenallt?’ – Gruffydd Davies (Prifysgol Aberystwyth)

Bydd y gynhadledd yn cael ei darlledu, ac mae modd cofrestru i fynychu yn rhithiol a chanfod mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This