Cyhoeddi manylion Wythnos Busnes Gwynedd 2025

October 2025 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi manylion Wythnos Busnes Gwynedd 2025. Eleni bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 a 24 Hydref ac yn ôl y Cyngor yn rhoi cyfle i fusnesau a sefydliadau ar draws y sir i ddod ynghyd i rannu profiadau, dysgu ac ymgysylltu.

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Gyngor Gwynedd a sefydliadau cymorth busnes. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, gweithdai ymarferol a chyfarfodydd o wahanol fathau. Ymhlith yr hyn sy’n cael ei gynnig eleni mae’r digwyddiadau canlynol:

  • Brecwast Busnes yng Nghricieth, Dolgellau a Chaernarfon, sy’n cynnig cyfleoedd rhwydweithio a mewnwelediadau gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig a sefydliadau cymorth
  • Sesiwn gyda’r nos a gynhelir gan Syniadau Mawr Cymru, wedi’i hanelu at entrepreneuriaid ifanc ac yn cyfuno profiadau bywyd go iawn, gweithgareddau creadigol ac arweiniad ar ddechrau busnes
  • Gweminar a digwyddiad mewn person a gynhelir gan ARFOR, sy’n archwilio gweithleoedd llwyddiannus, rôl y Gymraeg yn y gweithle, a sut y gall cyflogwyr gefnogi a datblygu talent ifanc
  • Digwyddiad Rhwydweithio Merched Mentrus, sy’n cynnig cyfle i fenywod busnes gysylltu, rhannu profiadau a magu hyder
  • Gweithdy LinkedIn Ar Gyfer Busnes sydd wedi’i gynllunio i helpu mynychwyr i gael y gorau o LinkedIn ar gyfer hyrwyddo a thyfu eu busnes
  • Hanfodion Cychwyn Busnes – sesiwn ar-lein sy’n cynnig arweiniad clir i’r rhai sy’n ystyried – eu camau cyntaf tuag at entrepreneuriaeth

Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn ddyddiad pwysig yn y calendr, gan roi cyfle i fusnesau o bob maint rannu syniadau, meithrin cysylltiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’r rhaglen eleni yn cynnig mewnwelediadau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio sydd wedi’u cynllunio i gefnogi ac ysbrydoli, ac rwy’n falch bod gennym gymuned fusnes mor gref a chefnogol yma yng Ngwynedd.

“Trwy gydweithio, rhannu syniadau a dysgu gyda’n gilydd, gallwn adeiladu economi lewyrchus sy’n addas ar gyfer heriau’r dyfodol. P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n rhedeg busnes sefydledig, mae’r wythnos yn cynnig rhywbeth i bawb.”

Gallwch ddysgu mwy a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This