Mae Hybu Cig Cymru wedi cyhoeddi taw José Peralta yw Prif Weithredwr newydd y corff ardoll cig coch.
Mae gan José brofiad helaeth o weithio yn niwydiant cig y Deyrnas Unedig, gyda chyfnod yn gweithio fel Prif Weithredwr busnesau cig coch mawr o dan berchnogaeth Grampian Country Food Group, Vion a 2 Sisters Food Group. O dan arweinyddiaeth José roedd gan y sefydliad werthiant blynyddol o dros £500 miliwn, dros 3,000 o weithwyr, chwe safle prosesu ar draws y DU, ac oedd yn un o werthwyr mwyaf o gig eidion a chig oen Cymreig yn y DU a dramor hyd nes 2016.
Yn hwyrach yn ei yrfa, daeth José yn Brif Weithredwr ar Tulip Food Company ac wedyn Puffin Produce yn Sir Benfro, lle wnaeth arwain ar ddatblygiad safle poteli llaeth Hufenfa Sir Benfro.
Wrth sylwebu ar y penodiad mewn datganiad dywedodd gadeirydd HCC, Catherine Smith:
“Mae Bwrdd Hybu Cig Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda José, ac yn hyderus y bydd ei sgiliau arwain eithriadol, a’i brofiad helaeth yn y diwydiant cig coch yn ei wneud yn ymgeisydd delfrydol i arwain HCC, yn y cyfnod nesaf o’i ddatblygiad o fewn diwydiant deinamig sy’n esblygu, wrth barhau i osod ein talwyr ardoll wrth wraidd popeth a wnawn.”
“Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad, wrth i ni barhau i dyfu a chryfhau ein brandiau adnabyddus, Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Wrth i ni ddod a’r gwaith o weithio ar ein cynllun busnes pum-mlynedd presennol i ben, a dechrau siapio ein gweledigaeth strategol ar gyfer 2026 a thu hwnt, rydym ni’n ymrwymo i greu rhaglen fapio a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy’r diwydiant fel rhan hanfodol o economi bwyd-amaeth Cymru.”
“Fe hoffem ni hefyd ddiolch i Heather Anstey-Myers, Prif Weithredwr Dros Dro am ei holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
“Rwy’n falch bod José Peralta yn ymgymryd â’r swydd bwysig hon. Gyda chefndir cryf yn y diwydiant cig coch, bydd ei brofiad yn amhrisiadwy i symud y sefydliad yn ei flaen, gan wneud yn fawr o bob cyfle ar ran talwyr ardoll a’r diwydiant bwyd-amaeth yn ehangach. Rwy’n hyderus y bydd Hybu Cig Cymru yn parhau â’r rol ganolog o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i ddarparu dyfodol cynaliadwy i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru.”
Dywedodd José Peralta:
“Rwy’n edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith yn syth gyda thîm HCC i sicrhau bod y sefydliad yn sefyll gyda’i bartneriaid fel llais cryf i ddiwydiant cig coch Cymru, gan gefnogi ei ddatblygiad a’i hyrwyddo ar ran ein talwyr ardoll.”
“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddaf yn ymgysylltu gyda thalwyr ardoll a phartneriaid ehangach, i ganfod cyfleoedd ar gyfer cydweithio a phartneriaeth er mwyn gwneud y gorau dros ein talwyr ardoll a’r diwydiant yn ehangach.”
Bydd José Peralta yn dechrau fel Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru wythnos nesaf ar 20 Ionawr 2025.