Mae gwerthusiad annibynnol o ARFOR 2 wedi ei gyhoeddi, gan amlygu rhai o brif ganlyniadau’r rhaglen economaidd ar gyfer siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Caerfyrddin a Cheredigion gwerth £11m yn ystod ail gymal y rhaglen rhwng 2022 a 2025. Fe gomisiynwyd cwmni Wavehill i gynhyrchu’r ddogfen fel rhan o ffrwd ‘Gwerthuso, Monitro, a Dysgu’ ARFOR, gyda’r nod o gofnodi llwyddiannau a heriau’r prosiect, ynghyd a rhannu unrhyw wersi a ddysgwyd fel rhan o’r rhaglen waith.
Mae’r adroddiad sylweddol yn crynhoi prif weithgarwch y rhaglen, ac yn darparu asesiad o berfformiad y gwahanol ffrydiau gwaith. Ynghyd a’r ffrwd ‘Gwerthuso, Monitro a Dysgu’, roedd 4 prif ffrwd arall i ail gymal rhaglen ARFOR gyda phob un o’r ffrydiau yn cael eu cyflenwi gan wahanol bartneriaid:
- Llwyddo’n Lleol: ymgyrch hyrwyddo oedd yn annog pobl i ymgartrefu a dychwelyd i’r rhanbarth.
- Cymunedau Mentrus: grantiau oedd yn cynorthwyo busnesau i greu swyddi a chynyddu defnydd o’r Gymraeg.
- Y Gronfa Her: cronfa oedd yn ariannu prosiectau arloesol cydweithredol er mwyn ateb gofynion penodol yr ardal yn unol ag amcanion y rhaglen.
- Bwrlwm ARFOR: ymgyrch farchnata er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith y rhaglen a rhannu straeon cadarnhaol.
Mae’r adroddiad yn ddadansoddiad manwl o berfformiad pob un o’r ffrydiau uchod, ac yn darparu asesiad o’r modd yr oeddent yn cyd-dynnu er mwyn gwireddu amcanion creiddiol y prosiect, sef sefydlu fframwaith o ymyraethau economaidd a cymdeithasol byddai’n sicrhau dyfodol y Gymraeg yn yr ardaloedd rheini lle ceir y canrannau uchaf o siaradwyr o ran poblogaeth.
Ymysg prif ganfyddiadau’r gwerthusiad mae’r pwyntiau canlynol:
- Yn ôl yr adroddiad mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni’r hyn a gynlluniwyd.
- Drwy’r Gronfa Her ariannwyd 30 o brosiectau gwerth cyfanswm o oddeutu £2.1m.
- Drwy Llwyddo’n Lleol fe wnaeth tua 200 o unigolion dderbyn cymorth a chyngor ar sut i greu a chynllunio busnesau, cael gafael ar swydd neu gymorth ariannol i symud i’r ardal.
- Crëwyd 327 o swyddi newydd, a sicrhawyd 295 swydd o ganlyniad i’r rhaglen.
- Dros oes y project, rhoddwyd cefnogaeth i 263 o fentrau newydd a 678 o rai oedd wedi eu sefydlu yn barod.
- Yn ôl adborth gan y busnesau wnaeth gymryd rhan, fe wnaeth 210 ohonynt weld cynnydd yn eu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Ynghyd a chofnodi allbynnau allweddol, mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad i wneuthurwyr polisi eu hystyried ar gyfer ymyraethau tebyg yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Yr angen i ystyried rhaglen waith sy’n gweithredu ar draws gyfnod hirach, oherwydd yr heriau a achoswyd gan amserlen mor gyfyng.
- Dylai rhaglen gyffelyb yn y dyfodol ganolbwyntio ar rhai elfennau penodol, gan gynnwys rhannu arferion da a darparu cyngor a chydlynu strategol, ymchwil a pheilota sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc a marchnata sy’n ceisio newid argraffiadau.
- Cymhwyso prif wersi’r ymchwil i lywio’r camau nesaf.
Defnyddiwyd yr argymhellion hyn i gynllunio’r cyfnod pontio y mae’r rhaglen ynddi ar hyn o bryd, gyda Llywodraeth Cymru yn dynodi £500,000 yn ychwanegol i gadw rhai elfennau o’r rhaglen yn weithredol hyd 2026. Mae modd lawrlwytho a darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan ARFOR.

