Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

November 2025 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enillwyr cystadlaethau a gynlluniwyd i brofi craffter busnes unigolion sydd wedi bod yn cymryd rhan yn eu Hacademi Amaeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru heddiw (24 Tachwedd). Yn gynt yn yr hydref, rhoddwyd y dasg o lunio syniadau i fynd i’r afael a’r heriau y mae’r argyfwng natur a hinsawdd yn eu cyflwyno i aelodau Academi yr Ifanc, tra cafodd aelodau’r Academi Amaeth y dasg o lunio cynllun oedd yn gwella gwytnwch busnes.

Roedd pedair gwobr unigol i’r gystadleuaeth – Her Academi Amaeth, Gwobr Dewis yr Aelodau yr Academi Amaeth, Her Academi yr Ifanc a Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi yr Ifanc. Yr enillwyr oedd Sophie Hughes (Her Academi Amaeth 2025), Huw Thomas (Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi Amaeth 2025), ac Ellis Morgan (Her Academi yr Ifanc 2025 a Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi yr Ifanc 2025).

Roedd yr 11 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Academi Amaeth angen llunio cynllun gweithredu ar gyfer fferm arfordirol yn Nheredigion. Y beirniad oedd Cadeirydd Bwrdd Cyswllt Ffermio, Euryn Jones a Chyfarwyddwr yr Academi Amaeth, Anna Bowen. Mewn datganiad dywedodd Euryn Jones:

“Dangosodd Sophie ddealltwriaeth dda iawn o system bresennol y fferm a meincnododd ei pherfformiad yn broffesiynol iawn yn erbyn safonau’r diwydiant a gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi.’’

Roedd cynllun Sophie Hughes yn cydnabod uchelgeisiau ffermwr y prosiect ac roedd ei chais yn llwyddo i osod targedau realistig oedd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r fferm dan sylw. Dywedodd Euryn Jones:

“Ystyriodd y goblygiadau ariannol yn llawn a lluniodd gyllidebau gyda dealltwriaeth o’r diwydiant ehangach wrth fanteisio ar leoliad arfordirol y fferm.’’

Roedd y 12 ymgeisydd ar gyfer cystadleuaeth Academi yr Ifanc angen paratoi cyflwyniadau yn dangos sut y byddent yn mynd i’r afael â heriau ynghlwm wrth argyfyngau natur a hinsawdd dros y 10 i 15 mlynedd nesaf gan ystyried y broses o gynhyrchu bwyd ar eu ffermydd hwythau neu’r ffermydd maent yn cael eu cyflogi ganddynt.

Y beirniaid ar gyfer Her Academi yr Ifanc oedd, Rheolwr Cymru gyda Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (NFFN), Rhys Evans, a Swyddog Arbenigol Carbon gyda Cyswllt Ffermio, Dr Non Williams.

Dywedodd Rhys Evans fod yr enillydd, Ellis Morgan, wedi dangos nad oedd o reidrwydd angen dewis rhwng plannu coed a chynhyrchu bwyd:

“Pe bai mwy o bobl yn deall y naws honno ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan Ellis i’w ddweud, byddai’r drafodaeth am goed yn llawer iachach.

Dangosodd ei bod hi’n bosibl gwneud elw o goed wrth gloi carbon a darparu’r manteision hynny o ran lles anifeiliaid megis cysgod a lloches hefyd.”

Rhoddodd ganmoliaeth i weddill y cystadleuwyr hefyd:

“Roedden nhw i gyd yn wych, ac yn sicr yn dangos mwy o wybodaeth am y materion nag yr oeddwn i o bosibl yn eu hoedran nhw.”

Gallwch ddysgu mwy am yr Academi Amaeth drwy ymweld a gwefan Cyswllt Ffermio.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This