Mae trefnwyr Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau a lleoliad ar gyfer digwyddiad 2026. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Ngorllewin Cymru am y tro cyntaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 18 – 19 Tachwedd 2026.
Mae modd prynu tocynnau cynnar am bris gostyngol nawr, gyda’r prisiau yn cynyddu ar ôl mis Ebrill. I ddysgu mwy am y gynhadledd ac i brynu tocynnau, dilynwch y ddolen hon.

