Cyhoeddi dau adroddiad ar ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle yng Nghymru

Ionawr 2025 | Sylw

turned off flat screen monitors on top of beige desks

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Cymru, corff sy’n cynrychioli partneriaeth rhwng yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi dau adroddiad sy’n rhannu canllawiau ar ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector gyhoeddus. Bwriad yr adroddiadau yw darparu cyngor a chyfarwyddyd i gyflogwyr sicrhau bod eu defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn gyfrifol a moesegol.

Mae’r adroddiad cyntaf sef ‘Rheoli technoleg sy’n rheoli pobl: dull Partneriaeth Gymdeithasol o weithredu systemau rheoli algorithmig yn sector cyhoeddus Cymru’ yn edrych ar ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial er mwyn rheoli staff mewn cyd-destunau sector gyhoeddus ddatganoledig. Mae’r ddogfen yn canolbwyntio’n benodol ar y cyfleoedd a’r peryglon sy’n gysylltiedig â systemau technolegol o’r fath wrth recriwtio, gosod tasgau a monitro ac yn gosod egwyddorion cyffredinol i gyflogwyr eu hystyried wrth wneud penderfyniadau staffio.

Mae’r ail adroddiad o’r enw ‘Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gwaith: adroddiad meincnodi ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial ymhlith sector cyhoeddus Cymru’ yn edrych ar amgyffred ac agweddau ymatebwyr tuag at ddeallusrwydd artiffisial. Mae’r ddogfen yn deillio o ymchwil a gynhaliwyd i ganfod sut y mae gweithwyr yn y sector gyhoeddus yng Nghymru yn deall deallusrwydd artiffisial gan roi cipolwg o’r modd y meddylir am y pwnc yng nghyd-destun gweithleoedd Cymru ar hyn o bryd.

Mewn datganiad gan Llywodraeth Cymru dywedodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:

“Wrth i AI barhau i lunio dyfodol ein gweithleoedd, mae’n hanfodol bod gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau fel ei gilydd yn elwa ar yr arloesi parhaus hwn. Mae ein dull gweithredu’n sicrhau ein bod yn defnyddio AI mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn modd tryloyw a’i fod yn cael ei oruchwylio gan bobl.

Mae’r tair egwyddor allweddol yn adlewyrchu ein ‘ffordd Gymreig’ o ddefnyddio partneriaeth gymdeithasol – sef gwneud penderfyniadau ar y cyd sy’n rhoi blaenoriaeth i degwch, sicrwydd swyddi a datblygu’r gweithlu.

Gyda’r adnoddau hyn, rydyn ni’n ailddatgan safbwynt Cymru fel arweinydd wrth fabwysiadu AI mewn modd moesegol, gan osod meincnod ar gyfer rheoli technoleg gyfrifol ar draws y sector cyhoeddus.”

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Er mwyn manteisio i’r eithaf ar systemau AI sy’n rheoli gweithwyr, rhaid i weithwyr feddu ar lais cryf yn y ffordd maen nhw’n cael eu dylunio a’u defnyddio. 

Mae TUC Cymru ac undebau’r sector cyhoeddus yn croesawu cyhoeddi ‘Rheoli Technoleg sy’n Rheoli Pobl’, oherwydd y bydd yn sicrhau bod gweithwyr yn rhannu’r manteision y gallai AI eu cynnig.

Roedd undebau’n falch o gael gweithio’n agos gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru i gytuno ar y canllawiau hyn.  Mae’n dangos manteision gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.”

Gallwch ddysgu mwy am yr adroddiadau a’u darllen yn eu cyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This