Cyhoeddi cynlluniau economaidd yng Nghinio CBI Cymru

Rhagfyr 2024 | Sylw

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyhoeddi cynhadledd i’w gynnal yn 2025 gyda’r bwriad o ddenu buddsoddiad ychwanegol i Gymru. Fe wnaeth Eluned Morgan y cyhoeddiad yng Nghinio Blynyddol CBI Cymru yng Nghaerdydd wythnos diwethaf (27 Tachwedd 2024). Ymddengys fod y gynhadledd yn gam i geisio cyd-fynd a strategaeth Llywodraeth y DU i ddenu buddsoddiad pellach i’r DU, yn dilyn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Hydref.

Wrth gyhoeddi’r newyddion dywedodd Eluned Morgan:

‘Rwy’n falch iawn o gyhoeddi uwchgynhadledd y flwyddyn nesaf, a fydd yn arddangos Cymru i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl. Bydd y digwyddiad yn fodd o dynnu sylw at y cyfleoedd niferus sydd gennym ni yma yng Nghymru a’n cryfderau mewn diwydiannau allweddol.

Mae twf economaidd yn flaenoriaeth hollbwysig i mi, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru a helpu i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddwyr i Gymru. Rydyn ni wedi gweld llawer o gyhoeddiadau cyffrous dros y misoedd diwethaf, sydd wedi creu cannoedd o swyddi, ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw’r momentwm hwnnw i fynd y flwyddyn nesaf.’

Cyhoeddiad Ysgrifenydd Gwladol Cymru

Yn yr un digwyddiad fe wnaeth Jo Stephens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyhoeddi ei bod am lansio grŵp ymgynghori economaidd newydd. Bwriad y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymreig bydd i drafod galwadau gall ddylanwadu ar Strategaeth Ddiwydiannol newydd y Deyrnas Unedig er mwyn helpu diwydiannau allweddol yng Nghymru.

Yn ôl datganiad gan Swyddfa Cymru, dyma fydd y tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr grwpiau busnes, addysg a diwydiant Cymru yn helpu i lunio polisi traws llywodraethol y DU. Cadeirydd y grŵp bydd Jo Stephens ac fe fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:

  • Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru
  • Dr Jenifer Baxter, Diwydiant Cymru
  • Ben Francis, Cadeirydd Polisi Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Shavanah (Shav) Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
  • John-Paul (JP) Barker, Arweinydd y Gorllewin a Chymru, PwC
  • Jessica Hooper, Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru
  • Kevin Crofton, Cadeirydd, Creo Medical
  • Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Airbus
  • Yr Athro Paul Boyle, Prifysgolion Cymru
  • Sarah Williams-Gardner, Cadeirydd FinTech Wales
  • Syr Derek Jones, cynghorydd annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth y Brenin yng Nghymru, Keolis UK ac IQE.

Dywedodd Jo Stephens:

‘Bydd fy Ngrŵp Ymgynghori Economaidd newydd yn manteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd Cymru i gyflwyno cyfnod newydd o ffyniant a thwf i’n cenedl.

Rydym yn creu partneriaeth newydd gyda busnesau, gweithwyr ac undebau i sbarduno twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae hyn yn golygu swyddi i chi, buddsoddiad yn eich milltir sgwâr, a chyfleoedd i’ch plant. 

Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’n harweinwyr diwydiant, byddwn yn ail-fwrw gwreiddiau diwydiannol balch Cymru drwy swyddi a diwydiannau’r dyfodol.’

Bydd y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd yn dechrau eu gwaith gyda chyfres o gyfarfodydd dros y chwe mis nesaf. Mae disgwyl Adolygiad Gwariant gan y Canghellor Rachel Reeves yng Ngwanwyn 2025 lle bydd modd gweld os bydd amcanion y grŵp wedi eu gwireddu.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This