Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y dull newydd o ddarparu cyllid i ffermwyr yng Nghymru yn dilyn cyfnod pontio o gymorthdaliadau wedi ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynllun newydd yn newid y meini prawf angenrheidiol sydd angen i ffermwyr eu cyrraedd er mwyn derbyn grantiau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r cynllun wedi ei ddylunio sicrhau dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn cymryd camau i warchod yr amgylchedd. Daw’r cynllun terfynol yn dilyn protestiadau gan ffermwyr ym mis Chwefror 2024 wedi cyhoeddiad cynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun, oedd yn cynnwys yr angen i ffermwyr blannu 10% o’u tir a choed. Profodd y cynnig hwnnw yn un dadleuol ymysg ffermwyr ac mae’r polisi bellach wedi’i waredu o’r haen gyffredinol, gyda gofyniad yn hytrach i greu cynefinoedd i helpu bywyd gwyllt.
Mae’r cynllun yn cadw cyllideb o £238 miliwn ar gyfer 2026 ac yn cynnwys cymorth hyblyg er mwyn cynorthwyo plannu perthi a choed. Yn gyffredinol mae’r pwyslais cynt ar gyllido mesurau er budd natur wedi’u newid o fod yn rhai oedd yn orfodol i fod yn rhai gwirfoddol, eto mae rhai gofynion megis yr angen i ffermwyr greu cynllun ar gyfer plannu gwrychoedd a choed ar eu ffermydd yn parhau yn y cynllun newydd.
Mae cyllid ar gyfer plannu coed a gwrychoedd bellach yn gyfyngedig i Haen Ddewisol y rhaglen, gyda thaliadau y mae’r Llywodraeth wedi eu disgrifio fel rhai ‘hael’ ar gyfer ffermwyr sy’n dewis gwneud hyn. Bydd cyfradd talu uwch ar gyfer plannu coed yn ystod 3 blynedd gyntaf y cynllun, fel modd o ysgogi amaethwyr i fabwysiadu’r polisi. Mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio nad oes gofyn na disgwyl i ffermwyr blannu coed ar eu tiroedd mwyaf cynhyrchiol, ac yn dweud bydd cyngor a chanllawiau yn eu lle er mwyn ‘sicrhau bod y goeden gywir yn y lle iawn’.
Mewn datganiad fe ddywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifenydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Mae’r ddogfen hon yn ffrwyth cydweithredu. Rydym wedi gwrando’n ofalus ar ffermwyr ledled Cymru ac wedi adolygu ein dull gweithredu i sicrhau ei fod yn gweithio i’r diwydiant amaethyddol ac yn bodloni ein cyfrifoldebau cyffredin i’r byd naturiol o’n cwmpas.
Hoffwn ddiolch i’r rhai a ymatebodd i ymgynghoriadau ac a fynychodd gyfarfodydd ar hyd a lled Cymru, ac rwy’n ddiolchgar i holl aelodau’r Ford Gron Gweinidogol a’r Gweithgorau Cefnogol am eu mewnbwn.
Rydyn ni’n gwrando a byddwn yn parhau i wrando. Mae’n amlwg bod pobl Cymru eisiau i ni gefnogi ffermio Cymru, ond maen nhw hefyd eisiau gweld natur yn cael ei adfer, priddoedd yn cael eu diogelu, ansawdd dŵr yn ein hafonydd yn gwella, mynediad i gefn gwlad yn cael ei gynnal a natur yn cael ei gefnogi i adfer a ffynnu.
Gyda golwg ar hyn, mae’r Cynllun yn gytundeb newydd rhwng pobl Cymru a’n ffermwyr a pherchenogion ein tir. Nid Cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn, mae hwn yn Gynllun ar gyfer Cymru gyfan – Cynllun fferm gyfan, cynllun gwlad gyfan.
Rydym yn cydnabod bod hyn yn golygu newid. Mae’r Cynllun hwn yn sylfaenol wahanol i’r Cynllun Taliad Sylfaenol, ond yn gwbl angenrheidiol ar gyfer llwyddiant hirdymor ffermio, cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd.”
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau ar 1 Ionawr 2026, gyda’r ffurflen gais ar gyfer haen gyffredinol y cynllun ar gael i’w gwblhau ar-lein o fis Mawrth hyd at 15 Mai bob blwyddyn. Bydd ffermwyr sy’n ymuno ac yn dilyn gofynion y cynllun yn derbyn Taliad Cynhwysol blynyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bydd y cynllun yn llai cymhleth, gyda llai o ofynion gweinyddol ar ffermwyr. Bwriad y Llywodraeth yw lansio cyfrifwr ar-lein gall ffermwyr ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo taliad dangosol ar gyfer eu fferm erbyn Sioe Frenhinol Cymru ymhen ychydig wythnosau.
Dywedodd y Dirprwy Brif-Weinidog:
“Mae hyn yn foment bwysig i amaethyddiaeth Cymru, gyda ffermwyr yn chwarae rhan ganolog yn ein diogelwch bwyd, diogelu’r amgylchedd, a chynnal treftadaeth ddiwylliannol a iaith unigryw y Gymru wledig.
Ein huchelgais yw gweld sector amaethyddol ffyniannus a hyderus yng Nghymru, sy’n dibynnu ar arloesedd a thwf, i wynebu heriau a manteisio ar unrhyw gyfleoedd.
Rydym yn gobeithio y bydd mwyafrif y ffermwyr yn ymuno â’r cynllun i’n helpu i wireddu’r uchelgais hon. Rydym yn credu’n gryf y bydd yn darparu sefydlogrwydd mawr ei angen tra’n helpu busnesau fferm i fod yn fwy gwydn, cynhyrchiol a chynaliadwy.”
I ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac i weld sut bydd y cynllun newydd yn eich effeithio chi, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

