Mae trefnwyr cynhadledd arbennig bydd yn edrych yn ôl ar waith rhaglen ARFOR wedi rhannu manylion am y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd Cynhadledd ARFOR, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan gwmni Wavehill, Prifysgol Aberystwyth a Sgema, yn cael ei gynnal ar 24 Mawrth 2025 ac yn manylu ar werthusiad terfynol y rhaglen. Wavehill yw’r cwmni sydd yn gyfrifol am ddarparu’r gwerthusiad ac fe fydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr a rhanddeiliaid i glywed ac i drafod prif ganfyddiadau’r adroddiad terfynol.
Bydd y gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i fynychwyr i glywed gan arbenigwyr yn y maes cynllunio iaith ac i drafod sut y gellid defnyddio canfyddiadau’r adroddiad i wella’n dealltwriaeth o natur y berthynas rhwng ffactorau economaidd a’r iaith Gymraeg. Y gobaith y bydd y trafodaethau hyn yn esgor ar gamau gweithredu pellach er mwyn chefnogi a hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy sy’n llesol i’r Gymraeg yn y dyfodol.
Mae’r gynhadledd ar gyfer pawb sydd â diddordeb ym mherthynas yr economi a’r iaith ac sydd am ddysgu mwy am raglen ARFOR. Bydd y diwrnod o ddiddordeb penodol i weithwyr polisi, cynllunwyr ieithyddol, a phobl sy’n gweithio o fewn y maes, gan gynnwys academyddion, arbenigwyr economaidd, a sefydliadau sy’n cefnogi datblygiad iaith a chymunedol. Gobaith y trefnwyr yw bydd y gynhadledd yn gweithio fel fforwm i’r unigolion hyn ddod ynghyd, rhannu arbenigedd ac ystyried sut y gallent gydweithio yn y dyfodol.
Ceir manylion am drefniant y diwrnod isod:
09:30 – 10:00: Cyrraedd, te a choffi
Gosod Cyd-destun ac Adnabod Gwersi
10:00 – 10:15: Cyflwyniad gan Wavehill ar ARFOR – beth sydd wedi’i gyflawni, perfformiad y rhaglen, ac effaith y gweithgareddau.
10:15 – 10:45: Cyflwyniad byr gan darparwyr ARFOR yn trafod prif gyraeddiadau a’r gwersi a ddysgwyd.
10:45 – 11:15: Wavehill: Prif Themau’r Gwerthusiad a cwestiynau i ddilyn
11:30 – 12:30: Sesiynau grŵp
Trafod y prif ganfyddiadau yn ôl themâu:
- Pa gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael i greu busnesau, swyddi, a chyfleoedd economaidd yng nghymunedau ARFOR (megis Cymunedau Mentrus, Llwyddo’n Lleol, Bwrlwm ARFOR)?
- Pa ystyriaethau pwysig sydd angen eu hystyried wrth drafod dadboblogi pobl ifanc o ardaloedd ARFOR a Chymru?
- Pa wersi allwn ni eu cymryd o’r strwythur a threfniant rhaglen ARFOR?
12:30 – 13:15: Cinio
13:15 – 14:15: Sesiynau grŵp (‘break-out’): Trafod Cyd-destun y Rhaglen
- Trafod y Gymraeg mewn gweithleoedd
- Beth yw cyfraniad y rhaglen yng nghyd-destun polisi ehangach
- Beth yw perthynas â / dylanwad ar raglenni datblygu economaidd eraill sy’n effeithio ar y rhanbarth
14: 15 – 14:30 – Egwyl
14:30 – 15:30: Panel: Llunio’r Llwybr ymlaen: Beth nesaf?
Bydd y panel hwn yn canolbwyntio ar sut gallwn edrych tua’r dyfodol, gan adeiladu ar y dysgu o ARFOR hyd yma. Byddwn yn archwilio’r cyfleoedd, heriau ac arferion da a all lywio camau nesaf polisi economaidd a ieithyddol a chefnogaeth i gymunedau a busnesau yng Nghymru.
Aelodau’r panel i’w cadarnhau.
15:30 – 16:00 Cloi
Mae modd i chi gofrestru i fynychu yn rhad ac am ddim drwy ddilyn y ddolen hon.

