Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cynhadledd yn trafod twbercwlosis buchol ar 17 Medi. Bydd yr Athro Syr Charles Godfray, Cadeirydd yr Adolygiad o Straetegaeth Dileu TB Buchol Lloegr a gynhaliwyd yn 2025 yn traddodi’r prif anerchiad.
Mae’r gynhadledd yn cael ei drefnu gan Ganolfan Rhagoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sefydlwyd y ganolfan yn 2018 i ddarparu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer dileu’r clefyd a chynyddu’r arbenigedd academaidd ynghylch yr afiechyd yng Nghymru.
Thema’r gynhadledd eleni yw brechu. Nod y digwyddiad yw dod a gwyddonwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid ynghyd i drafod datblygiadau diweddaraf yn y maes ac i gyflwyno ymchwil ynghylch y treialon brechu gwartheg a moch daear sydd ar y gweill ar hyd y DU.
Ymhlith siaradwyr eraill y gynhadledd bydd yr Athro Helen McShane FRCP PhD FMedSci (Prifysgol Rhydychen), Dr Andy Robertson (DEFRA), a Maria Dominguez MRCVS ac Ivelina Miteva DVM MSc (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion).
Mewn datganiad dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Cadair Ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae Adolygiad ‘Godfray’ o strategaeth TB Defra, a gynhaliwyd yn 2018, wedi bod yn allweddol wrth lunio cyfeiriad polisïau TB buchol yn Lloegr, a bydd yn fraint cael croesawu Syr Charles i gynhadledd AberTB eleni. Rydym yn awyddus iawn i glywed ei sylwadau am ganfyddiadau’r panel diweddaraf a’u goblygiadau o ran yr ymdrechion i ddileu twbercwlosis.
Gyda’i rhaglen lawn a’r cyfle i glywed gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran rheoli clefydau a llunio polisïau ar sail gwyddoniaeth, bydd AberTB 2025 yn gwneud cyfraniad amserol ac adeiladol i’r ymdrech barhaus i ddileu twbercwlosis buchol o Gymru a datblygu gwyddoniaeth brechu.”
Mae modd canfod y rhaglen llawn drwy ddilyn y ddolen hon. Cost tocyn yw £85 ac mae modd eu prynu drwy wefan Prifysgol Aberystwyth.

