Dydd Iau (05 Mawrth), cynhaliwyd seremoni wobrwyo Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd ARFOR 2026 yn Y Maes, Cricieth — yn dathlu a chydnabod y busnesau a mentrau sydd ar flaen y gad gyda’u defnydd o’r Gymraeg yn ardal ARFOR (Ceredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn).
Yng nghwmni’r cyflwynydd, Daloni Owen, cyhoeddwyd enillwyr ar draws wyth categori — bob un ohonynt yn cyfrannu at ddyfodol yr iaith yn y rhanbarth — gyda lluniaeth gan Flame and Grain Pizza a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr trwy gydol y noson.
Ymysg enillwyr Gwobrau 2026 oedd yr artist Lisa Eurgain Taylor, yn cipio gwobr Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd; Er Dy Les Di am greu Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd gyda’u hadnoddau meddwlgarwch i blant; a Tec Tarw, criw o fechgyn ifanc sy’n ailgylchu hen gyfrifiaduron, yn derbyn teitl Ieuenctid Mwyaf Cymraeg y Byd.
Cafwyd dros 200 o enwebiadau ar draws y categorïau, a mwy na 4,000 o bleidleisiau cyhoeddus.
Dywedodd Nia Wyn Evans, Cyfarwyddwr Busnes cwmni theatr Arad Goch, enillwyr y wobr Rhyngwladol am eu gwaith yn hyrwyddo’r Gymraeg y tu hwnt i ffiniau Cymru: “Mae’r iaith Gymraeg wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud fel cwmni — o’r llwyfan a’r setiau i’r holl waith sy’n digwydd y tu ôl i’r llen — felly mae cael cydnabyddiaeth am effaith hynny y tu hwnt i ARFOR yn unig yn rhywbeth arbennig iawn i ni.
“Byddwn i’n argymell i unrhyw fusnes neu fenter rhoi cynnig ar y Gymraeg. Os oes yna gamgymeriadau ai peidio, mae’n bwysicach ein bod ni’n ei defnyddio hi, arddangos hi a’i chynnal hi na pheidio defnyddio’r iaith o gwbwl.”
Roedd hyd yn oed y tlysau â chyswllt ag ARFOR, wedi’u creu gan Dail Pren — busnes saernïaeth pren yn Sir Gâr, a dderbyniodd cymorth rhaglen Llwyddo’n Lleol ARFOR yn ddiweddar.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Mae rhaglen ARFOR wedi bod o fudd i unigolion, busnesau a chymunedau ar draws ein cadarnleoedd Cymraeg, gan gyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant economaidd cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau i dyfu a datblygu fel elfen allweddol o sicrhau bod cadarnleoedd y Gymraeg yn parhau’n lefydd bywiog a deniadol i fyw a gweithio.”
I ganfod mwy am Rhaglen ARFOR, ewch i: www.arfor.org
Rhestr llawn enillwyr Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd 2026:
- Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd = Lisa Eurgain
- Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd = Cegin Mr Henry
- Tacsis Mwyaf Cymraeg y Byd = Tacsi Cromwell
- Menter Gymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd = Tafarn yr Iorwerth
- Ieuenctid Mwyaf Cymraeg y Byd = Tec Tarw
- Cwmni Rhyngwladol Mwyaf Cymraeg y Byd = Arad Goch
- Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd = Er Dy Les Di
Am fwy o wybodaeth gweler – Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd — Bwrlwm ARFOR

