Cyhoeddi Adroddiad WoodBuild 2025 yn dilyn cynhadledd yn Llandudno

October 2025 | Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Sylw

Mae Adroddiad WoodBuild ar gyfer 2025 wedi ei gyhoeddi wedi i 250 o gynrychiolwyr o’r diwydiannau adeiladu, coedwigaeth a pholisi ddod ynghyd i drafod sut y gellid defnyddio pren i adeiladu ar raddfa ehangach.

Mae’r gynhadledd flynyddol yn cael ei threfnu gan WoodKnowledge Wales, sefydliad sydd yn bodoli i hyrwyddo cynyddu’r defnydd o bren fel deunydd adeiladu cynaliadwy yng Nghymru a datblygu diwydiannau’n seiliedig ar goedwigoedd. Gallwch ddysgu mwy am waith WoodKnowledge Wales drwy ymweld â’r wefan.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Llandudno ym mis Mehefin eleni, gan fabwysiadu’r thema ‘cysylltu dealltwriaeth i weithredu’. Dywedodd y trefnwyr fod y gynhadledd yn adeiladu ar fomentwm blynyddoedd diweddar drwy ganolbwyntio ar sut y gellid trosi mewnwelediadau ar draws y gadwyn gyflenwi yn syniadau gweithredol y gellid eu defnyddio o ddydd i ddydd.

Mae’r adroddiad yn crynhoi a chyflwyno rhai o’r gwersi a ddysgwyd o’r gynhadledd ynghyd a rhoi blas o’r sgyrsiau, gweithdai a fforymau trafod a gynhaliwyd ar draws y deuddydd. Mae modd darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This