Mae UNESCO wedi cyhoeddi bod Aberystwyth am ymuno a rhwydwaith rhyngwladol o 350 o ‘Ddinasoedd Creadigol’ wedi’r cyhoeddiad bod y dref bellach yn ‘Ddinas Llenyddiaeth’, y man cyntaf i dderbyn y fraint hon yng Nghymru. Ymhlith dinasoedd eraill ar y rhestr mae Barcelona, Dulyn, Seattle a Rio de Janeiro.
Mae Aberystwyth yn brolio hanes o ddiwylliant llenyddol hirhoedlog a chryf. Mae yna amryw o wyliau llenyddol, theatrau, digwyddiadau llenyddol, darlithoedd, canolfannau ymchwil, cyhoeddwyr a siopau llyfrau yn helpu i gynnal hyn a’r traddodiad o ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol y dref.
Daeth consortiwm o sefydliadau ynghyd i lunio’r cais ar gyfer Dinas Llên yn 2021 oedd yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau). Ymhlith aelodau’r consortiwm oedd Mererid Hopwood, Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a ddywedodd:
“Fel y fro gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae arwyddocâd y dynodiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd y tu hwnt i Aberystwyth a sir Ceredigion ac i’r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gyfle i atgyfnerthu’r diwylliant llenyddol cyfoethog ry’n ni’n ei fwynhau yma a’i rannu â’r byd. ‘Mynd o’ch gwobr at eich gwaith’ yw’r dywediad Cymraeg, ac yn sicr rydym ni’n edrych ymlaen yn awr at wynebu’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r fraint sylweddol hon.”
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Jones, Maer Aberystwyth:
“Mae’n wych o beth fod Aberystwyth Ceredigion wedi derbyn y statws hwn gan roi ein sir ar lwyfan byd-eang a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a llenyddol unigryw. Mae llenyddiaeth i bawb ac rydym bellach wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd sydd â chreadigrwydd wrth wraidd eu cymunedau lleol, gan greu dyfodol mwy cynhwysol, gwydn a chynaliadwy.
Mae llenyddiaeth a chreadigrwydd yn helpu i wneud Aberystwyth Ceredigion yn lle anhygoel i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef ac rydym yn credu y bydd cael dynodiad Dinas Llên gyntaf Cymru yn sbarduno twf pellach yn y diwydiannau creadigol, yn dod â budd i fusnesau lleol ac yn helpu mwy o bobl i’n darganfod ni a’n straeon. Mae’r dynodiad hwn yn perthyn i bawb yn Aberystwyth Ceredigion ac mae cymaint o gyfleoedd i gymryd rhan a rhannu syniadau – dim ond y cam cyntaf yw hwn!”.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
“Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion am ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.
Mae Cymru yn wlad llawn creadigrwydd, gydag awduron, beirdd, cantorion ac actorion gwych. Wrth gwrs, mae llawer ohonynt yn dod o ardal Aberystwyth ac wedi mynychu’r Brifysgol yno, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn gydnabyddiaeth o’r sîn lenyddol ddisglair, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar draws y sir.
Mae statws Dinas Llên UNESCO yn gyrhaeddiad haeddiannol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyfleoedd yn datblygu a gweld Dinas Llên newydd Cymru’n ffynnu.”
Anfonodd cynrychiolwyr UNESCO neges at y dref:
“Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion ar ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru!
Mae’r nod hwn o gydnabyddiaeth fyd-eang yn taflu goleuni ar fywiogrwydd a chryfder diwylliant llenyddol dwyieithog Cymru, a’i chyfraniad at greadigrwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Fel rhan o rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â chymuned sy’n hyrwyddo cynhwysiant, cynaliadwyedd ac arloesedd trwy ddiwylliant a chreadigrwydd.
Mae’n dangos sut y gall ymdrechion lleol a rhyngwladol flaenoriaethu llenyddiaeth, gan helpu i gryfhau dylanwad diwylliannol Cymru a’r DU, yn ogystal â’u llais ar lwyfan y byd.”
Gallwch ddysgu mwy a gweld sut y gallwch gymryd rhan drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Dinas Llên.

