Cyfoeth Naturiol Cymru yn lansio ymgynghoriad ynghylch Parc Cenedlaethol Glyndŵr

September 2025 | Natur a hinsawdd, Sylw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar barc cenedlaethol newydd i ogledd ddwyrain Cymru. Bwriad yr ymgynghoriad yw cymell ymatebion gan y cyhoedd a mesur barn ynghylch y cynnig ar gyfer ‘Parc Cenedlaethol Glyndŵr’.

Yr ymgynghoriad yw’r cam diweddaraf yn dilyn dwy flynedd o waith asesu sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, gwaith sydd wedi cynnwys casglu data, asesiadau technegol ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth. Wrth wraidd y cynigion presennol mae ymgynghoriadau blaenorol yn 2023 a 2024 a chanfyddiadau’r ymchwiliadau hynny.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi map o ffiniau’r parc arfaethedig ac mae modd ei weld drwy ddilyn y ddolen hon.

Mewn datganiad dywedodd Ash Pearce, Rheolwr y Rhaglen:

“Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i amddiffyn natur, cefnogi cymunedau, a llunio dyfodol gwell i’r rhan hyfryd hon o Gymru. Rydyn ni’n gwybod y gall newid fod yn anodd, ond gyda’r dull cywir, gallai Parc Cenedlaethol newydd ddod â manteision go iawn i bobl, bywyd gwyllt a’r economi leol.

Anogir aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad, archwilio’r cynnig a dweud eu dweud drwy ymateb i’r ymgynghoriad.”

Fel rhan o’r gwaith ymgynghori, mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu i drigolion ac eraill gael clywed mwy am y cynlluniau a rhannu eu barn drwy fis Medi, Hydref a Thachwedd. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynghylch y digwyddiadau hyn drwy ddilyn y ddolen hon. Mae modd dysgu mwy am yr ymgynghoriad a gweld yr holl ddogfennau perthnasol sy’n gyhoeddus yma. Dysgwch am gefndir y prosiect drwy glicio yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This