Cyfle olaf i ymuno a rhaglen hyfforddiant busnes ARFOR

Medi 2024 | Sylw

Yr wythnos hon yw’r cyfle olaf eleni i ymuno a rhaglen hyfforddiant datblygu syniadau busnes Llwyddo’n Lleol. Mae rhaglen Mentro Llwyddo’n Lleol yn rhan o gynllun ARFOR ac yn rhoi cyfle i 30 o bobl ymuno a chwrs hyfforddiant sydd yn cynorthwyo entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau busnes cychwynnol yn gynllun busnes cyflawn. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn 10 wythnos o sesiynau mentora a hyfforddi gydag arweinwyr busnes ac arbenigwyr yn y maes gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau angenrheidiol sydd megis marchnata, cyllidebu a denu cwsmeriaid.

Ynghyd a mynychu’r cwrs, bydd y rheini sydd yn cymryd rhan yn y rhaglen yn derbyn £1,000 tuag at ddatblygu eu syniad busnes. Mae modd i unrhyw unigolyn sydd yn bodloni’r gofynion canlynol wneud cais:

  • Rhwng 18 a 35
  • Byw yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd neu Ynys Môn.
  • Yn gallu siarad Cymraeg neu sydd wedi ymrwymo i ddysgu a defnyddio’r iaith.
  • A syniad busnes ac yn barod i ymrwymo i’r rhaglen 10 wythnos neu wedi dechrau busnes newydd o fewn y ddwy flynedd diwethaf ac eisiau cymorth i dyfu’r busnes.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 11 Medi 2024. Am ragor o fanylion ynghylch sut i wneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan Llwyddo’n Lleol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This