Cyfle i gymunedau gwledig yng Nghymru ennill £20,000 ar gyfer prosiectau cymunedol

July 2025 | Sylw, Arfor, Polisi gwledig

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi bod modd i gymunedau mewn rhai ardaloedd o Gymru wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 ar gyfer prosiectau gall helpu wella eu hardaloedd lleol yn y dyfodol. Mae’r Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn rhan o’r ffrydiau gwaith y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Bydd y grant yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil. Ynghyd a’r arian, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth broffesiynol gan fentor academaidd a chyfle i gysylltu a dysgu o’r prosiectau eraill bydd yn derbyn cyllid.

Mewn datganiad, dywedodd yr Athro Mike Woods, Cyfarwyddwr y prosiect:

“Diben y rhaglen hon yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth i gymunedau gwledig i ymchwilio i’r hyn sy’n bwysicaf iddyn nhw – boed gwella lles, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu gryfhau’r diwylliant lleol – ac i droi’r wybodaeth honno’n gamau gweithredu.”

“Mae hwn yn gyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth lunio eu dyfodol eu hunain, ac rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch ac uchelgais cymunedau yng nghefn gwlad Cymru.”

Mae’r grant yn agored i gymunedau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg.

I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau gydweddu ag o leiaf un o bedair thema allweddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r pontio i Sero Net; grymuso cymunedau ar gyfer adferiad diwylliannol; neu wella lles yn ei le.

Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Gyda’n Gilydd Dros Newid sy’n gweinyddu’r rhaglen ac fe ellir canfod mwy o wybodaeth am y Grant Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned ar eu gwefan. Mae ceisiadau ar agor tan ganol nos 29 Awst 2025.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This