Cyfle i fusnesau bach ennill grant o hyd at £10,000

July 2025 | Sylw

Mae Sage wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi cyfanswm £50,000 mewn grantiau busnes i un ar ddeg o fusnesau bach. Mae gwobr Sage Small Business XI 2025 yn agored i holl drigolion y DU sydd dros 18 mlwydd oed ac sy’n gyfrifol am benderfyniadau ariannol ar gyfer neu’n berchennog ar fusnes bach gydag o leiaf blwyddyn o weithgaredd masnachu cyn dyddiad agor y gystadleuaeth.

Er mwyn cystadlu, mae Sage eisiau i ymgeiswyr ddisgrifio taith eich busnes mewn llai na 2000 o nodau. Maent yn eiddgar i glywed straeon busnes ysbrydoledig sy’n dangos uchelgais ac sy’n ateb y cwestiynau canlynol:

  • O ble y daeth eich busnes chi?
  • Sut y gwnaethoch chi gyrraedd lle rydych chi heddiw?
  • Lle ydych chi’n gweld eich busnes yn mynd yn y dyfodol?

I ddysgu mwy am y gystadleuaeth, dilynwch y ddolen hon i wefan Sage. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 12:00 dydd Llun y 7fed o Orffennaf.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This