Cyfle i fasnachwyr lleol Sir Gâr ymuno â marchnadoedd stryd am ddim

July 2025 | O’r afon i’r môr, O’r pridd i’r plât, Sylw

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi hysbysebu’r ffaith fod cyfle i fasnachwyr lleol arddangos eu cynnyrch mewn marchnadoedd nwyddau a chrefft am ddim, yn dilyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y fenter newydd yn gweld y Cyngor yn cynnal cyfres o farchnadoedd stryd misol yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, gyda’r nod o gefnogi masnachwyr lleol ac arddangos y cyfoeth o fwyd, crefftau a chynnyrch sy’n bodoli’n lleol.

Gweithredwyr y marchnadoedd bydd Green Top Markets, sy’n arbenigo mewn darparu marchnadoedd stryd yng Nghymru. Bydd y cwmni’n darparu pabell fawr ganolig a stondinau unigol i’r rheini bydd yn arddangos. Byddent hefyd ar gael i gynnig cyngor arbenigol ar sut i gyflwyno stondinau ac yn helpu gyda’r gwaith hyrwyddo drwy gydlynu ymgyrch farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol ar y cyd gyda’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

“Mae hwn yn gyfle gwych i fasnachwyr profiadol ac entrepreneuriaid newydd i gael eu gweld a thyfu eu busnesau yng nghanol ein trefi prysur. Trwy gefnogi’r marchnadoedd artisan bywiog hyn, rydym nid yn unig yn rhoi hwb i fasnach leol ond hefyd yn helpu i ddathlu’r talent a’r cynnyrch unigryw sydd gan Sir Gâr i’w gynnig.”

Mae’r marchnadoedd cyntaf yn cael eu cynnal yr wythnos hon, ond fe all masnachwyr sydd â diddordeb gofrestru drwy wefan Green Top markets, neu gael mwy o wybodaeth drwy e-bostio info@greentopmarkets.com.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This