Mae Huws Gray, y gwerthwyr nwyddau a deunyddiau adeiladu a sefydlwyd ym Môn, wedi cyhoeddi taw hwythau yw noddwyr swyddogol dyfarnwyr a swyddogion gemau ar draws holl gemau cynghreiriau pêl droed Lloegr gan gynnwys yr Uwch Gynghrair a chystadleuaeth Cwpan yr FA ar gyfer y tymor 2025/26. Bydd logo’r cwmni yn ymddangos ar grysau dyfarnwyr, dyfarnwyr cynorthwyol a swyddogion VAR drwy gydol y tymor.
Mae’n gam hysbysebu mawr i’r cwmni sydd wedi gweld twf parhaus diweddar i ddyfod yn un o’r arwerthwyr mwyaf o nwyddau a deunyddiau adeiladu ym Mhrydain. Lansiwyd y cwmni yn 1990, gydag un lleoliad ar Ynys Môn. Bellach mae ganddynt dros 370 o siopau ac yn cyflogi dros 5000 o bobl ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Daw’r cam i noddi cynghreiriau Lloegr mewn cyfnod o ail frandio sylweddol i’r cwmni, lle maent yn diweddaru delwedd y cwmni ar draws eu harwyddion, cerbydau a siopau.
Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr y cwmni, Daksh Gupta:
“Mae’r bartneriaeth hon wedi ei adeiladu ar werthoedd a rennir, rheini o degwch, didwylledd, arbenigedd a phroffesiynoldeb – egwyddorion sy’n bwysig ym myd pêl droed ac yn y diwydiant adeiladu hefyd.”

