Cwmni gwasanaethau technoleg i ehangu yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru

October 2025 | AI ac Awtomeiddio, Sylw

Mae cwmni gwasanaethau technoleg wedi cyhoeddi eu bod am ehangu a chreu swyddi newydd yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Bydd ITCS ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sefydlu pencadlys newydd yng Nghymru ac yn dyblu capasiti.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £350,000 o gymorth drwy gynllun Dyfodol yr Economi bydd yn diogelu swyddi ac yn creu 60 o swyddi eraill erbyn 2028. Mae ITCS yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu sefydliadau i awtomeiddio tasgau sy’n greiddiol i’w busnes. Bydd y pencadlys yn cael ei leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Waterton. Ymhlith y cyfleusterau yno bydd swyddfa uwch-dechnoleg, canolfan gweithrediadau seiberddiogelwch a chanolfan hyfforddi. Nod y cwmni yw gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog myfyrwyr i ddyfod i’r maes ynghyd a rhoi cyfleoedd i oedolion i uwchsgilio.

Mewn datganiad dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae cefnogi swyddi yn niwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd y prosiect hwn yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel mewn rhan o Gymru sydd â chlwstwr TG sy’n datblygu’n gyflym.

Bydd y buddsoddiad yn y pencadlys newydd hwn yn darparu’r cyfleusterau sydd eu hangen ar ITCS i ffynnu, wrth iddo fynd ar drywydd arloesi, datblygu sgiliau a thwf hirdymor.”

Dywedodd Brian Stokes, Rheolwr Gyfarwyddwr ITCS:

“Dyma gyfnod cyffrous i ITCS wrth i ni gymryd y cam nesaf o ran ein twf. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad, rydym wedi helpu sefydliadau i drawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio, gan sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cynhyrchiant ac arbedion cost sylweddol. Bydd ein pencadlys newydd yn caniatáu inni ehangu ein capasiti a darparu hyd yn oed mwy o werth i gleientiaid newydd a phresennol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chymorth, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y buddsoddiad hwn yn bosibl. Rydym nawr yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’n cyfleuster arloesol newydd i arddangos a thrafod sut y gall ITCS wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau wrth iddynt gofleidio deallusrwydd artiffisial a dyfodol technoleg.”

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This