Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dewis Ynys Môn fel un o chwe ‘treftadleoedd’ newydd

October 2025 | Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi Ynys Môn fel un o chwe ardal bydd yn elwa o fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd. Nod y cynllun yw galluogi cymunedau i ddyfod yn ‘Dreftadleoedd’ gan ddatgloi potensial treftadaeth leol drwy fuddsoddiad ariannol. Y pum ardal arall bydd yn derbyn arian yw Barking a Dagenham, Glannau Hanesyddol Belfast, Dudley, Ynysoedd Erch a Tameside.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr treftadaeth mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Ers ei sefydlu yn 1994 mae wedi dyfarnu gwerth dros £9.2 biliwn i fwy na 52,000 o brosiectau. Mae’r sefydliad yn datgan fod Treftadleoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cymunedau yn y tymor hir i archwilio posibiliadau treftadaeth ac yn cyfrannu at hunaniaeth leol, cynyddu sgiliau treftadaeth ac yn helpu i greu balchder lleol.

Mewn datganiad dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:

 “Mae gan ein chwe Treftadleoedd newydd botensial anhygoel – o orffennol diwydiannol cyfoethog Tameside i Gerrig Sefydlog Stennes ar Orkney a threftadaeth arfordirol fywiog Ynys Môn. Mae pob lle yn llawn trysorau treftadaeth amrywiol i’w harchwilio.

 Rydym yn falch o hyrwyddo a buddsoddi yn y lleoedd hyn, gan helpu cymunedau a phartneriaid i lunio gweledigaethau newydd beiddgar ar gyfer y dreftadaeth ar garreg eu drws. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn sicrhau bod treftadaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei gofalu a’i chynnal i bawb – nawr ac am genedlaethau i ddod.

 Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi buddsoddi mewn treftadaeth i greu lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld, gan gynyddu’r cyfraniad cadarnhaol y mae treftadaeth yn ei wneud i fywyd yn y DU. Mae Treftadleoedd yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan gynnig cefnogaeth hirdymor a gyrru effaith hyd yn oed yn fwy.”

 Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Mae Ynys Môn yn lle ble mae treftadaeth yn byw yn y tirlun, yr iaith a bywydau bob dydd ei phobl. Mae ein buddsoddiad yma yn ymwneud â chydnabod y cyfoeth hwnnw ac yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau i sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu – nawr ac yn y dyfodol.

 Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn cefnogi Ynys Môn am y tymor hir – gan helpu pobl leol i lunio gweledigaeth sy’n dathlu’r gorffennol tra’n rhyddhau cyfleoedd ar gyfer adfywio, sgiliau a llesiant.”

 Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard:

“Mae hwn yn gyhoeddiad a chyfle cyffrous i Ynys Môn. Rydym yn falch bod yr Ynys wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ac yn ddiolchgar i’r Gronfa Dreftadaeth am ei hymrwymiad ariannu.

 Ein nod nawr yw ehangu cynnig treftadaeth gyfoethog yr Ynys, gan sicrhau y gall wneud cyfraniad sylweddol i gymunedau lleol a dyfodol economaidd-gymdeithasol yr Ynys.  Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid lleol, grwpiau cymunedol a diddordebau i gyflawni hyn.

 Hoffwn hefyd ddiolch i staff Uned Datblygu Economaidd y Cyngor am baratoi’r cynnig llwyddiannus hwn. Bydd eu harweiniad a’u mewnwelediad parhaus yn amhrisiadwy wrth i ni ymdrechu i wneud y gorau o’r cyllid pwysig hwn.”

 Dywedodd Martin Schwaller, Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr GeoMôn, Geoparc Byd-eang UNESCO Ynys Môn:

“Mae creigiau amrywiol Ynys Môn, wedi’u siapio gan biliwn o flynyddoedd o weithgarwch tectonig, yn gwneud ei dirwedd yn anhygoel. Fel Geoparc Byd-eang UNESCO, mae ei geoamrywiaeth yn cefnogi bioamrywiaeth gyfoethog ac wedi dylanwadu ar ddiwylliant ac iaith leol.”

 Mae Porthladd hanesyddol Amlwch, a oedd unwaith yn ganolfan mwyngloddio copr, bellach yn gartref i ganolfan arddangos GeoMôn, gan ddenu dros 4,000 o ymwelwyr yr haf. Mae gan y safle hwn botensial mawr ar gyfer adfywio; byddai cyllid o fudd i bobl leol a’r ynys ac yn ei gwneud yn Drysor yng Nghoron Cymru.”

 Mae modd dysgu sut y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn penderfynu pa ardaloedd i roi cyllid iddynt drwy ddilyn y ddolen hon i amlinelliad methodolegol y cynllun.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This