Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru yr adroddiad Pwysau costau byw yn ddiweddar (Gorffennaf 2022). Fe’i cyhoeddwyd yn dilyn ymchwiliad eang i’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru.
Roedd effaith costau cynyddol tanwydd gwresogi, yn enwedig ar bobl sy’n byw mewn eiddo gwledig oddi ar y grid ac mewn tai hŷn llai ynni-effeithlon yn bryder arbennig. Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn amcangyfrif nad yw 74% o eiddo yng Ngheredigion wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy cenedlaethol.
Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn ymchwil yn yr Alban a oedd yn amcangyfrif bod byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell yn ychwanegu 15 i 30 y cant at gyllideb aelwydydd, o gymharu ag ardaloedd trefol.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cartrefi oddi ar y grid drwy’r gaeaf drwy ymestyn eu gallu i gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol neu’r cynllun Talebau Tanwydd. Mae’r Pwyllgor yn cyfeirio at argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd.
Anogir Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid trydydd sector i archwilio Menter “Warm Hubs” tebyg i’r un a gynhelir yn Northumberland. Mae’r fenter yn darparu mannau cynnes a diogel i bobl gyfarfod.
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid cynnal ymchwil fanylach o gwmpas y “premiwm gwledig” ac effeithiau gwahanol y cynnydd mewn costau byw mewn ardaloedd gwledig a chymunedau trefol.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad eto.
Gellir darllen yr adroddiad llawn yma.