Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi datganiad polisi ar ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial

August 2025 | AI ac Awtomeiddio, Arfor, Sylw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos diwethaf (7 Awst 2025) fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ddatganiad polisi ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan sefydliadau sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg. Cyflwynwyd Safonau’r Gymraeg yn 2016, ac maent yn ei wneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus i gydymffurfio a gofynion penodol ynghylch gwelededd a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwrpas y ddogfen yw sicrhau fod sefydliadau hyn yn parhau i gydymffurfio a Safonau’r Gymraeg wrth i ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial ddyfod yn fwy cyffredin fel dull i gyfieithu testunau neu er mwyn ymgysylltu a’r cyhoedd er enghraifft. Mewn datganiad dywedodd Osian Llewelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Mae maes deallusrwydd artiffisial yn un sy’n datblygu ar garlam ac yn siwr o newid yn sylfaenol sut y byddwn ni’n cyfathrebu â’n gilydd a’r byd o’n cwmpas, tra ar yr un pryd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i wella’r gwasanaethau gaiff ei ddarparu yng Nghymru.  

“Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg ac yn parhau i fod yn iaith fyw yn ein bywydau bob dydd. Mae’n bwysig felly bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy’n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a’i hyrwyddo yn y byd digidol. 

“Rydym yn gefnogol i’r defnydd o DA gan ei fod yn cynnig cyfleoedd unigryw i wella gwasanaethau, ond rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy’n parchu ac yn hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant. Gobeithio bydd cyhoeddi’r polisi yma heddiw yn fodd o gynorthwyo i wneud hynny yn effeithiol.” 

Dywedodd Osian Jones o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a gymerodd rhan mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod ynghylch y polisi, fod angen arweiniad er mwyn sicrhau gwasanaethau digidol o safon:

“Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru wedi ei ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae’n diffinio sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru ac mae’n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy’n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.”

“Ein nod ni fel Canolfan yw i helpu sefydliadau ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a’u gwneud yn hawdd eu defnyddio. Drwy gydweithio, ein gobaith yw y gallwn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn arweinydd ym maes technoleg, tra hefyd yn cynnal a hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant unigryw.”

Gallwch ddarllen y datganiad polisi yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This