Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24. Mae’r adroddiad yn edrych ar waith y Comisiynydd a’i swyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag effaith y gwaith hwnnw a’u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ffurf y strategaeth Cymru Can.
Yn ôl yr adroddiad ymysg blaenoriaethau’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn nesaf bydd:
- Darparu mwy o hyfforddiant a chyngor i gyrff cyhoeddus.
- Herio Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau. hinsawdd a natur, gan gynnwys sicrhau fod yna waith yn cael ei wneud i gyrraedd sero net a gwella ansawdd dŵr.
- Siarad o blaid Strategaeth Fwyd Cenedlaethol i Gymru.
- Ehangu’r cyd-weithio sy’n digwydd gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch er mwyn gwella darpariaeth ymchwil.
- Dadansoddi cyllideb Llywodraeth Cymru er mwyn dadlau o blaid camau ataliol ym maes polisi iechyd.
I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, ac i ddysgu mwy am y strategaeth ‘Cymru Can’, dilynwch y ddolen hon.