Mae Comisiwn Seilwaith Cymru wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu gwaith ar gyrraedd sero net drwy gyhoeddi adroddiad ‘Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050’. Mae’r adroddiad yn dyfod o ganlyniad i waith ymchwil wnaeth edrych ar y modd y gall Llywodraeth Cymru fanteisio ar gyfleoedd ynni adnewyddadwy yng Nghymru, pa heriau sy’n wynebu Cymru wrth symud tuag at sero net a sut gall y Llywodraeth ymgysylltu orau a’r cyhoedd ynghylch y pwnc.
Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei gynnal a’i ddarparu drwy gyfrwng amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau allanol, wnaeth lunio adroddiadau unigol yn seiliedig ar y meysydd dan sylw. Mae modd canfod a darllen y darnau yma o ymchwil drwy ddilyn y dolenni canlynol:
- Strategaeth Seilwaith Sero Net – Arup
- Heriau a thensiynau wrth Gyflawni Sero Net – Mace Consulting
- Sgyrsiau Ynni Adnewyddadwy yng Nghanolbarth Cymru – CAT / CSE / Dulas
Fel rhan o broses cynhyrchu’r adroddiad, fe ategwyd at ganfyddiadau’r prosiectau ymchwil uchod gan y Comisiwn drwy waith ymgysylltu’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ynghylch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i Lywodraeth Cymru eu gwneud er mwyn ehangu a gwella darpariaeth ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
I ddarllen crynodeb o argymhellion y Comisiwn ac i weld yr adroddiad llawn dilynwch y ddolen hon.