Cofnodi pum mlynedd o’r Cynnig Cymraeg

May 2025 | Arfor, Sylw

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cofnodi pum mlynedd o’r Cynnig Cymraeg drwy gychwyn ar gyfnod o ddathlu’r busnesau ac elusennau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau’r gymeradwyaeth. Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Ymysg y sefydliadau diweddaraf i ymrwymo i’r Cynnig Cymraeg mae Ffilm Cymru, Pennotec a Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Mae dros 160 o sefydliadau o amrywiaeth eang o sectorau wedi derbyn y Cynnig Cymraeg hyd yma.

Ymysg y cyntaf i dderbyn y Cynnig Cymraeg oedd JCP, cwmni cyfreithiol sydd â swyddfeydd ar draws de a gorllewin Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Meinir Davies, Cyfarwyddwr a Chydlynydd y Gymraeg gyda JCP:

“Mae nifer o’n cydweithwyr yma yng Nghyfreithwyr JCP yn siarad Cymraeg ac rydym wedi rhoi’r dewis i’n cleientiaid i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg ers blynyddoedd.

“Bu’n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r gallu i gyfathrebu â’n cleientiaid yn yr iaith y maen nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o’r ymagwedd honno.

“Rydym yn falch iawn o fod yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg bum mlynedd yn ôl ac rwy’n falch o allu dweud fod ein hymrwymiad i’r Gymraeg yr un mor gryf ag erioed.”

Dros yr wythnos nesaf, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi sylw i’r sefydliadau hynny sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. Mae Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn annog sefydliadau i geisio am y Cynnig Cymraeg a dangos eu hymrwymiad i’r iaith:

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fudiadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy’r Gymraeg a thrwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

“Mae’n hollbwysig fod y gwaith o hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy ein gwaith rheoleiddio yn y sector gyhoeddus a’n hanogaeth yn y sector breifat a’r trydydd sector yn cyd-redeg. Mae’r ddwy elfen yn angenrheidiol os ydym am weld cynnydd mewn defnydd naturiol o’r iaith Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn ac rwy’n falch o weld cymaint o amrywiaeth yn y sefydliadau sydd wedi derbyn y gymeradwyaeth.”

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This